Rhaglen deledu ffuglen wyddonol ydy Doctor Who ("Doctor Pwy") a gynhyrchir gan y BBC yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn ymwneud ag anturiaethau Arglwydd Amser (Time Lord) sy'n dwyn yr enw "The Doctor". Mae'r bod arallfydol hwn, sy'n ymddangos fel bod dynol, yn teithio o gwmpas y gofod mewn llong ofod sy'n ymddangos o'r tu allan fel blwch ffôn heddlu'r 1960au, a elwir y TARDIS (acronym am Time and Relative Dimension in Space). Mae'r TARDIS yn enfawr y tu fewn, a cheisir gwthio ffiniau gwyddoniaeth yn y rhaglen. Gyda'i gynorthwyydd, mae'r Doctor yn wynebu nifer o elynion arallfydol ac yn cynorthwyo pobl gan geisio ateb drwg gyda da. Fel pob Arglwydd Amser, os yw'r Doctor ar fin marw, gall atgyfodi drwy drawsnewid i berson arall, gyda'r un cof ac enaid. Mae'r ddyfais yma'n caniatau parhad y gyfres drwy gastio actorion newydd i'r brif ran.
Rhestrwyd y rhaglen yn y "Guinness World Records" fel y rhaglen ffug wyddonol sydd wedi bod ar y teledu am yr amser hiraf, a hynny drwy'r byd. Erbyn 2018 roedd 13 actor wedi chwarae'r brif rhan fel y Doctor, gyda'r 13eg Doctor wedi ei chwarae gan fenyw am y tro cyntaf.
Y gyfres wreiddiol (1963-1989, 1996)
Ymddangosodd Doctor Who yn gyntaf ar deledu'r BBC am 17:16:20 GMT ar 23 Tachwedd 1963,[1][2] yn dilyn trafodaethau am flwyddyn gron. Y gŵr o GanadaSydney Newman (a oedd yn Bennaeth Adran Ddrama'r BBC) a gafodd y syniad gwreiddiol ac ef a sgwennodd y ddogfen amlinellol wreiddiol - ar y cyd â'r sgwennwr C. E. Webber. Cyfranodd y canlynol hefyd: Anthony Coburn, David Whitaker, a'r cynhyrchydd cyntaf: Verity Lambert.[3] Roedd y gyfres ar gyfer y teulu cyfan yn wreiddiol,[4] gydag elfennau addysgol gan ddefnyddio 'teithio drwy amser' er mwyn ymchwilio gwahanol adegau hanesyddol ag elfennau gwyddonol.
Ar 31 Gorffennaf 1963 comisiynwyd Terry Nation i sgwennu'r stori gyda'r teitl The Mutants. Yn wreiddiol, dioddefwr oedd y Dalecs wedi i fom niwtron chwythu yn eu byd, ond newidiwyd hyn yn ddiweddarach gan eu gwneud yn fwy bygythiol. Doedd y BBC ddim yn dymuno creaduriaid unllygeidiog arallfydol a gwrthwynebwyd y Dalecs ar y cychwyn. Y Dalecs oedd creaduriaid mwyaf llwyddiannus y gyfres a chafwyd llawer o nwyddau'n cael eu gwerthu wedi'u llunio arnyn nhw.[5]
Y Doctor
Dangoswyd y gyfres wreiddiol o 23 Tachwedd1963 - 6 Rhagfyr1989 cyn atgyfodwyd y gyfres yn 2005. Dros y blynyddoedd chwaraewyd y prif gymeriad ('y Doctor') gan nifer o actorion gwahanol:
Cafodd y gyfres hon ei lansio yn 2005 yn bennaf drwy ymdrechion yr awdur teledu Russell T. Davies. Ffilmiwyd y Doctor Who newydd gan BBC Cymru, yn bennaf yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, a'i cynhyrchu yn Upper Boat Studios, Glan-bad. Yn y tymor cyntaf chwaraewyd rhan y Doctor gan Christopher Eccleston.
Nofelau New Series Adventures y BBC - straeon newydd ar gyfer y nawfed Doctor (yn 2005) a'r degfed Doctor (o 2006 ymlaen) fel a welir yn y gyfres newydd.