Y diwydiant sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu cerbydau modur a'u cydrannau (ac eithrio teiars, batrïau, a thanwydd)[1] yw'r diwydiant ceir neu'r diwydiant modur(ol).
Dyfeisiwyd y cerbyd modur yn Ewrop yn hwyr y 19g. Rhoddwyd hwb i'r diwydiant yn yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r 20g pan poblogeiddiodd Henry Ford y rhes gydosod i alluogi masgynhyrchiad ceir. Yn sgil yr Ail Ryfel Byd daeth gwmnïau Gorllewin Ewrop, yn enwedig yr Almaen, a Japan yn gynhyrchwyr ac yn allforwyr mawr. Bellach mae nifer o'r hen gwmnïau yn is-gwmnïau i riant-gwmnïau mawr a chafodd argyfwng economaidd yr unfed ganrif ar hugain effaith drom ar y diwydiant, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau