Mae Diwrnod Cenedlaethol Norwy neu Ddiwrnod Annibyniaeth Norwy yn ŵyl gyhoeddus swyddogol a gynhelir ar 17 Mai bob blwyddyn. Cyfeiria'r Norwyaid at y diwrnod fel Syttende mai ("Yr un-deg-seithfed o Fai"), Nasjonaldagen ("Diwrnod Cenedlaethol"), neu weithiauGrunnlovsdagen ("Diwrnod y Cyfansoddiad").
Bydd y Norwyaid yn aml yn dathlu gyda gorymdeithiau mawr gyda phawb wedi gwisgo yn eu gwisg arbennig (y bunad). Mae pobl yn bwyta cŵn poeth, wafflau a hufen iâ ac mae'r plant yn chwarae gemau buarth.[1]
Dechreuodd dathliadau'r diwrnod hwn ar unwaith ymhlith myfyrwyr wedi hyn. Fodd bynnag, roedd Norwy bryd hynny mewn undeb personol â Sweden (yn dilyn Confensiwn Moss yn Awst 1814, a oedd yn rhannu breniniaethau fel cenhedloedd ar wahân) ac am rai blynyddoedd roedd Brenin Sweden a Norwy yn amharod i ganiatáu'r dathliadau. Am rai blynyddoedd yn ystod y 1820au, fe wnaeth y Brenin Karl Johan ei wahardd gan gredu bod dathliadau fel hyn yn fath o brotestio a hyd yn oed yn wrthryfel, yn erbyn yr undeb.[3] Newidiodd agwedd y brenin ar ôl Brwydr y Sgwâr yn 1829, digwyddiad a arweiniodd at y fath gynnwrf fel y bu'n rhaid i'r brenin ganiatáu seremonïau coffáu ar y diwrnod.
Fodd bynnag, dim ond yn 1833 y cafwyd anerchiadau cyhoeddus, a dechreuwyd dathlu'n swyddogol ger cofeb cyn weinidog y llywodraeth, sef yr arlunydd Christian Krohg, a dreuliodd lawer o'i fywyd gwleidyddol yn ffrwyno pŵer personol y frenhiniaeth.
Ar ôl 1864 daeth y diwrnod yn fwyfwy ran o'r sefydliad, a lansiwyd yr orymdaith gyntaf i blant yn Christiania - bechgyn yn unig ar y dechrau. Sefydlwyd y fenter hon gan Bjørnstjerne Bjørnson, er i Wergeland wneud yr orymdaith blant gyntaf, yn 1820, yn Eidsvoll. Dim ond yn 1899 y caniatawyd i ferched ymuno yn yr orymdaith. Yn 1905, diddymwyd yr undeb â Sweden a dewiswyd y Tywysog Carl o Ddenmarc i fod yn Frenin Norwy annibynnol, dan yr enw Haakon VII. Yn amlwg, daeth hyn i ben ag unrhyw bryder yn Sweden am weithgareddau'r Diwrnod Cenedlaethol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd Norwy dan feddiant y Natsïaid, gwaharddwyd y dathliadau'n llwyr, neu ddefnyddio lliwiau baner Norwy ar ddillad, hyd yn oed. Pan ryddhawyd Norwy ar 8 Mai 1945, daeth baner Norwy yn symbol amlwg o ryddid Norwy.
Gorymdeithiau plant
Agwedd nodedig ar Ddiwrnod Cyfansoddiad Norwy yw ei natur cwbwl anfilwrol. Ledled Norwy, gorymdeithiau plant gyda digonedd o faneri yw elfennau canolog y dathliad. Mae pob ardal ysgol elfennol yn trefnu ei pharêd ei hun[4] gyda bandiau gorymdeithio rhwng ysgolion. Nadredda'r orymdaith drwy'r gymuned, gan aros yn aml yng nghartrefi henoed, cofebion rhyfel, ac ati. Mae'r orymdaith hiraf yn Oslo, lle ceir tua 100,000 o bobl yn teithio i ganol y ddinas i gymryd rhan yn y prif ddathliadau. Darlledir hwn ar y teledu bob blwyddyn, gyda sylwadau ar wisgoedd, baneri, a symbolau cenedlaethol eraill, ynghyd ag adroddiadau lleol o ddathliadau ledled y wlad. Mae gorymdaith enfawr Oslo'n cynnwys tua 100 o ysgolion, bandiau gorymdeithio, ac yn mynd heibio'r palas brenhinol lle mae'r teulu brenhinol yn cyfarch y bobl o'r prif falconi.[5]
Russ
Mae gan y dosbarth graddio o videregående (adran hynaf yr ysgol uwchradd uchaf, neu'r "chweched dosbarth") yr hyn a elwir yn russ, ei ddathliad ei hun ar 17 Mai, gyda'r disgyblion yn aros ar ddihun, drwy'r nos cyn mynd ati i fynd o amgylch y gymuned. Mae gan y russ hefyd eu gorymdeithiau eu hunain yn hwyrach yn y dydd, fel arfer tua 4 neu 5 pm. Yn yr orymdaith hon, byddant yn gorymdeithio drwy'r stryd gan gario arwyddion a baneri. Weithiau, byddant yn parodïo amrywiol agweddau lleol a gwleidyddol, er bod hyn wedi dod yn llai amlwg yn ddiweddar. Mae gorymdeithiau russ yn digwydd yn llai aml yn ddiweddar oherwydd yr heddlu llym.
Milwyr yn dathlu'r gwyliau cenedlaethol ym Meymaneh, Afghanistan.
Dathlu Diwrnod Cyfansoddiad Norwy yn Ballard, Seattle.
↑"The Constitution". Stortinget (yn Saesneg). 2021-01-19. Cyrchwyd 2024-05-17.
↑Stein Erik Kirkebøen (16 May 2008). "Kampen om toget". Aftenposten (yn Norwyeg). Cyrchwyd 21 Jan 2013.
↑Mae gan yr iaith Norwyeg nifer o eiriau gwahanol ar gyfer y term Saesneg "parade": "Parade", sy'n cyfeirio at orymdaith debyg i filwrol, a "tog" neu "opptog", sy'n cyfeirio at bobl yn cerdded mewn llwybr rhagosodol. Yn Bergen, gelwir yr orymdaith yn "prosesjon" (gorymdaith).