Dinas Salford
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dinas Salford (Saesneg: City of Salford). Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 97.2 km², gyda 258,834 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Wigan i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Bolton a Bwrdeistref Fetropolitan Bury i'r gogledd, Dinas Manceinion i'r dwyrain, Bwrdeistref Fetropolitan Trafford i'r de-ddwyrain, a Swydd Gaer i'r de-orllewin. Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas. Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Swinton. Yn ogystal â dinas Salford ei hun, mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Eccles, Pendlebury, Swinton, Walkden a Worsley. Cyfeiriadau
Information related to Dinas Salford |