Dinas Gwatemala (Sbaeneg: Ciudad de Gwatemala, enw llawn: La Nueva Gwatemala de la Asunción) yw prifddinas a dinas fwyaf Gwatemala. Roedd y boblogaeth yn 1,675,589 yn 1990, gyda 2.5 miliwn yn yr ardal ddinesig. Dinas Gwatemala yw dinas fwyaf Canolbarth America. Saif mewn dyffryn yn rhan ddeheuol y wlad.
Sefydlwyd y ddinas gan y Sbaenwyr yn 1776, er fod gweddillion un o ddinasoedd y Maya, Kaminaljuyu, o fewn ffiniau'r ddinas bresennol. Enw gwreiddiol y Sbaenwyr ar y ddinas oedd El Carmen.
Adeiladau a chofadeiladau
Biblioteca Nacional (llyfrgell genedlaethol)
Casa Presidencial (Tŷ'r Arlywydd)
Catedral Metropolitana (eglwys gadeiriol)
Estadio Mateo Flores
Museo Nacional de Arqueología y Etnología (amgueddfa)