Digartrefedd yw sefyllfa pan nad oes gan berson gartref oherwydd nad oes digon o gartrefi ar gael, neu ni allant fforddio prynu neu rentu cysgodfan rheolaidd, diogel ac addas.
Rhesymau dros ddigartrefedd
Yn ôl astudiaethau diweddar, dyma rai o brif achosion digartrefedd:
Cyn garcharorion heb gartref i ddychweld iddynt wedi iddynt gael eu rhyddhau
Trychinebau naturiol
Dadfeddiant gorfodol - mewn rhai gwledydd, mae pobl yn colli eu cartrefi oherwydd gorchmynion gan y llywodraeth er mwyn datblygiadau cyhoeddus neu breifat. Yn aml mae'r iawndal yn annigonol er mwyn dod o hyd i gartref newydd.
Gorfod ad-dalu morgais, a'r unig ddewis yw gwerthu'r tŷ.