Die Fledermaus

Die Fledermaus
Enghraifft o:gwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolDie Fledermaus Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1874 Edit this on Wikidata
GenreViennese operetta Edit this on Wikidata
CymeriadauGabriel von Eisenstein, Rosalinde, Frank, Prince Orlofsky, Alfred, Q54997555, Dr. Blind, Adele, Ida, Frosch Edit this on Wikidata
Yn cynnwysKlänge der Heimat, Q64830763, Q64841076, Q97156151, Adele's Laughing Song, Ouvertüre: Die Fledermaus Edit this on Wikidata
LibretyddRichard Genée, Carl Haffner Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTheater an der Wien Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af5 Ebrill 1874 Edit this on Wikidata
Enw brodorolDie Fledermaus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohann Strauss II Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Die Fledermaus (Cymraeg: "Yr Ystlum") yn opereta gan Johann Strauss II gyda libreto Almaeneg gan Karl Haffner a Richard Genée. Cafwyd y perfformiad cyntaf yn 1874.

Cefndir

Ffynhonnell llenyddol gwreddiol yr opera oedd Das Gefängis (Y Carchar), ffars gan y dramodydd Almaeneg Julius Roderich Benedix, a pherfformiwyd gyntaf yn Berlin yn 1851. Ar 10 Medi 1872, agorodd drama vaudeville tair-act Ffrengig gan Henri Meilhac a Ludovic Halévy, Le Révellion, wedi'i seilio'n fras ar ffars Benedix, yn y Théâtre du Palais-Royal.[1] Roedd Meilhac a Halévy wedi darparu nifer o libreti llwyddiannus ar gyfer Offenbach a ffurfiodd Le Révellion y sail ar gyfer y ffilm ddistaw 1926 So This Is Paris, wedi'i chyfarwyddo gan Ernst Lubitsch.[1] Cyfiethiwyd drama Meilhac a Halévy i'r Almaeneg gan Karl Haffner (1804-1876), ar ôl symbyliad Max Steiner, fel drama heb gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad yn Fienna.[1] Ystyriwyd y draddodiad Ffrengig réveillon ar Nos Galan yn amhriodol ar gyfer gosodiad mewn theatr yn Vienna, felly dewisiwyd newid y réveillon ar gyfer dawns.[2] Cafodd cyfieithiad Haffner ei basio ymlaen i'r cyfansoddwr a dramodydd Richard Genée, a oedd wedi ysgrifennu rhai o'r geiriau ar gyfer Der Karneval in Rom Strauss y flwyddyn yn gynharach, ac fe wnaeth gwblhau'r libreto.

Cymeriadau

Cymeriad Llais
Gabriel von Eisentsein tenor/bariton
Rosalinde, gwraig i Eisenstein soprano
Adele, morwyn Rosalinde coloratura soprano
Ida, chwaer Adele soprano
Alfred, athro canu tenor
Dr Flake, notari bariton
Dr Blind, cyfreithiwr tenor
Frank, llywodraethwr carchar bariton
Tywysog Orlofsky, tywysog Rwseg mezzo-soprano
Frosch, ceidwad carchar rhan siarad

Crynodeb

Lleoliad: Vienna, Awstria. Cyfnod: Nos Galan, 1899.

Act I

Tu allan i fflat y teulu Eisenstein, mae'r tenor Alfred yn serenadu ei hen gariad Rosalinde, sydd nawr yn briod i Gabriel von Eisentein. Mae Adele, morwyn i Rosalinde, yn meddwl am sut y gallai fynychu dawns Nos Galan ble bydd ei chwaer. Mae'n dweud wrth ei meistres bod angen iddi ymweld â modryb sy'n dost, ond mae Rosalinde yn gwrthod gadael iddi fynd. Mae Alfred yn ymddangos ac yn datgan ei gariad i Rosalinde, sy'n ei wrthsefyll tan ei fod yn dechrau canu. Gan glywed rhywyn yn dwad, mae'n danfon Alfred i ffwrdd, ond nid cyn iddo ei hargyhoeddi i adael iddo dychwelyd iddi yn hwyrach. Mae Eisenstein a'i gyfreithiwr, Blind, yn cyrraedd ar ôl sesiwn yn y llys: mae Eisenstein wedi cael ei ddedfrydu i wyth diwrnod yn y carchar ar ôl bwrw plismon gan orfod dechrau ei ddedfryd y noson honno. Mae'n gwrthod Blind yn flin iawn. Mae ei ffrind Falke yn annog Eisenstein i oedi fynd i'r carchar tan y bore ac ymuno ag ef yn y ddawns, sy'n cael ei chynnal gan y Tywysog Orlofsky. Mae Falke yn dweud wrht Eisentein i ddod gyda'i oriawr poced enwog i swyno'r menywod. Pan mae Eisenstein yn gwisgo, mae Falke yn gwahodd Rosalinde i'r ddawns, gan ddweud iddi os mae hi'n dod mewn cuddwisg, gallai gwylio ei gŵr yn fflyrtan gyda menywod eraill. Nid yw Rosalinde yn hoff o'r syniad, ond mae'n newid ei meddwl pan deith Eisenstein yn ôl i mewn yn ei wisg ffurfiol. Mae'n ymuno ag Adele ar gfyer ffarwel pan mae ei gŵr yn gadael am y 'carchar'. Yn flin gyda twyllo Eisentein, mae'n dweud wrth Adele i fynd i weld ei 'modryb' ac yn derbyn Alfred yn ei hystafell. Mae eu rendezvous yn cael ei dorri ar draws gan y ceidwad carchar Frank, sydd wedi dod i arestio Eisenstein. Mae Rosalinde yn perswadio Alfred i diogelu ei henw da gan esgus fod ei gŵr, ac mae Frank yn mynd ag Alfred i'r carchar.

Act II

Yn nawnsfa villa Tywysog Orlofsky, mae'r gwesteion yn clebran am eu gwesteiwr, sydd yn talu pobl i'w gwneud iddo chwerthin - fel arfer gan fethu. Mae Orlofsky yn amau y byddai noson ddiddanu Falke yn codi ei ysgbryd, ond yn datgan y dylai ei westeion ymddwyn a gwneud fel y maent eisiau. Mae Adele yn cyrraedd, gan syrpreisio ei chwaer Ida, dawnsio mewn sioe gerdd, sy'n hawlio nid oedd wedi ei gwahoddi. Mae Ida yn ofni nid yw Adele yn ddigon soffistegedig i fynychu'r ddawns, feely maent yn penderfynu i'w chyflwyno fel actores Rwseg o'r enw Olga. Mae Eisenstein yn dod i mewn, gan esgus fel dyn Ffrengig, gan ddilyn cyfarwyddiadau Falke. Mae'n adnabod Adele fel morwyn ei wraig yn syth, ond mae hi'n ei wrthod ac yn chwerthin. Mae Frank hefyd yn esgus fel dyn Ffrengig, ac mae ef a Eisenstein yn dod yn ffrindiau yn gyflym. Mae Frank wedi ymserchu gymaint gydag Ida ac 'Olga' mae'n esgus fel cynhyrchydd theatr i greu argraff arnynt. O'r diwedd, mae Roslainde yn cyrraedd, wedi'i chuddwisgo fel cowntes o Hwngari. Mae'n filn i weld ei gŵr yn fflyrtan gyda'r forwyn.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Andrew Lamb. Die Fledermaus. In: The New Grove Dictionary of Opera. Macmillan, Llundain ac Efrog Newydd, 1997.
  2. Stoullig E. Les Annales du Théâtre et de la Musique, 30eme edition, 1904. Librairie Paul Ollendorff, Paris, 1905, 203–205.