Derwen ger Wrecsam yng ngogledd Cymru yw Derwen Adwy'r Meirwon. Lleolir y goeden hon ger Clawdd Offa, a chredir ei fod yn fwy na mil o flynyddoedd oed. Saif ar safle Brwydr Crogen (1165) a daw enw'r dderwen o'i chysylltiad â chladdedigaeth meirwon y frwydr honno. Yn 2013, hon oedd y goeden gyntaf yng Nghymru ymgeisio am gystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn 2013.
Amcangyfrif oed y dderwen i fod yn uwch na mil o flynyddoedd, ac fe'i chysylltir â theyrnasiad Ecgberht, Brenin Wessex (802–839).[3] Safai'r goeden ym 1165 pryd ymladdwyd Brwydr Crogen, a dywed taw'r dderwen yw'r "unig dyst byw i'r frwydr hon". Llwyddodd byddin Gymreig dan Owain Gwynedd i drechu Harri II, brenin Lloegr a'i orfodi i ffoi.[4] Claddwyd y meirw mewn cae cyfagos a elwir yn Adwy'r Meirwon, ac enillodd y goeden yr enw Derwen Adwy'r Meirwon. Daeth y goeden yn symbol o'r frwydr ac ym Mawrth 2009 gosodwyd arwydd gerllaw i nodi'r cysylltiad hwn. Rhannodd y dderwen yn ddau yn Chwefror 2010 o ganlyniad i dywydd oer a derbyniodd orchymyn cadwraeth coeden gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'r dderwen yn dirnod lleol enwog ac yn un o'r coed cyntaf yn y byd i gael tudalen ei hunan ar wefan Facebook. Cafodd ei ddangos mewn sawl rhaglen deledu a radio, gan gynnwys Countryfile, newyddion BBC Midlands, BBC Wales TV, BBC Radio Wales, a BBC Radio Shropshire. Yn ogystal, adroddai hanes y goeden mewn ffilm gan Take 27 Ltd a gafodd ei harddangos yng Ngŵyl Hanesion Wrecsam ar 4 Chwefror 2011. Cafodd y dderwen ei henwebu gan Goed Cadw ar gyfer Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn 2013, y tro cyntaf i goeden yng Nghymru gael ei henwebu.