Denali, hefyd Mynydd McKinley (Saesneg: Mount McKinley), yw copa uchaf yr Unol Daleithiau a chopa uchaf Gogledd America. Saif yn Alaska. Ceir tywydd anarferol o oer ar y mynydd, ac mae pum rhewlif sylweddol ar ei lethrau. Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Denali o amgylch y mynydd yn 1980.
Hawliodd y fforiwr Frederick Cook ei fod wedi dringo'r mynydd yn 1906, ond profwyd yn ddiweddarach nad oedd wedi cyrraedd y copa. Yn 1910, dringwyd y mynydd gan bedwar o ddynion lleol, Tom Lloyd, Peter Anderson, Billy Taylor a Charles McGonagall. Cyhaeddasant y Copa Gogleddol, yr isaf o ddau gopa'r mynydd. Cyrhaeddwyd y copa uchaf yn 1913 gan Walter Harper.