Chwaraewr pêl-droed Seisnig yw Declan Rice (ganed 14 Ionawr 1999). Ar hyn o bryd, mae'n chwarae fel cefnwr neu canolwr amddiffynnol i West Ham ac i dîm cenedlaethol Lloegr.
Cefndir
Ymunodd a'r clwb yn 14 oed a chwaraeoedd ei gêm gyntaf ar y 21 Mai 2017. Chwaraeodd i dîm rhyngwladol Gweriniaeth Iwerddon am 3 gem cyn newid ei deyrngarwch cenedlaethol i Loegr ar y 14 o Chwefror 2019. Mae'n gwisgo crys #41 i West ham a sgoriodd ei gôl cyntaf proffesiynol i'r clwb yn erbyn Arsenal ar 12 Ionawr. Ymunodd ac Academi Chelsea yn 2006 fel plentyn 7 oed a fe'i ryddhawyd yn 2014. Declan Rice yw y person cyntaf yn ei arddegau i chwarae 50 gêm i West Ham ers Michael Carrick. Er ei fod wedi ei eni yn Llundain, mae Declan Rice yn gymwys i chwarae i Weriniaeth Iwerddon trwy ei gyndeidiau sydd yn dod o Cork. Er ei fod yn 20 oed, mae Rice wedi ennill tair gwobr mawreddog yn barod yn cynnwys dwywaith “Young Hammer of the year” ac gwobrau Llundain fel chwaraewr ifanc Gwladol.