Mae Dead Poets Society yn ffilm o 1989 a gyfarwyddwyd gan Peter Weir. Lleolir y ffilm mewn ysgol fonedd a cheidwadol i fechgyn ym 1959. Adrodda'r ffilm hanes athro Saesneg sy'n ysbrydoli ei fyryrwyr i newid eu bywydau o gydymffurfio trwy ddysgu barddoniaeth a llenyddiaeth. Ystyrir y ffilm yn ddehongliad modern o'r mudiad trosgynolaidd.
Lleloir y stori yn Academi Welton yn Vermont a chafodd ei ffilmio yn Ysgol St. Andrew yn Middletown, Delaware. Ysgrifennwyd y sgript gan Tom Schulman, yn seiliedig ar ei fywyd yn Academi Montgomery Bell, ysgol fonedd i fechgyn yn unig yn Nashville, Tennessee. Cyhoeddwyd nofel gan Nancy H. Kleinbaum (ISBN 0-553-28298-0) yn seiliedig ar sgript y ffilm.