Diwinydd a llenor o Gymru oedd David Miall Edwards (22 Ionawr 1873 – 29 Ionawr 1941). Ysgrifennai mewn Cymraeg a Saesneg ar ddiwinyddiaeth gan gymryd safbwynt Rhyddfrydiaeth a bu'n olygydd Y Dysgedydd ac Yr Efrydydd.[1]
Ganed Edwards yn Llanfyllin, Powys yn 1873 yn fab i William a Jane Edwards[2]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanfyllin, Prifysgol Bangor, Coleg Bala-Bangor a Choleg Mansfield, Rhydychen. Ar ôl cyfnod fel gweinidog aeth yn athro diwinyddiaeth yn y Coleg Coffa, Aberhonddu lle arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1934.[1]
Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Annibynwyr Capel Salem, Blaenau Ffestiniog 1900 i 1904 a Chapel y Plough, Aberhonddu 1904 i 1909.
Ym 1914 priododd Lilian Clutton Williams, Manceinion.
Llyfryddiaeth ddethol
- Esponiad ar Epistol Iago
- Crefydd a Bywyd (1915)
- Crist a Gwareiddiad (1921)
- The Philosophy of Religion (1923)
- Iaith a Diwylliant Cenedl (1927)
- Bannau'r Ffydd (1929)
- Christianity and Philosophy (1932)
- Crefydd a Diwylliant (1934)
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
- ↑ Who's Who in Wales 1933, A G Renolds & Co, Llundain; Tud 53