Mae datganoli'n wahanol i ffederaliaeth am fod y pŵerau a ddatganolir i'r awdurdodau is-genedlaethol yn gyfrifoldeb ar y llywodraeth ganolog yn y pen draw, ac felly mae'r wladwriaeth yn parhau, de jure yn unedol. Gall llywodraeth ganolog ddiddymu neu ddiwygio deddfwriaeth sy'n creu seneddau neu cynulliadau yn yr un modd ag y gellir gwneud gydag unrhyw statud.