Maori Seland Newydd yn dathlu cymeradwyaeth eu gwlad i Ddatganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Gynhenid yn 2010
Enghraifft o:
Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
Dyddiad cyhoeddi
13 Medi 2007
Mae'r Datganiad ar Hawliau Pobl Gynhenid (Declaration on the Rights of Indigenous Peoples;UNDRIP neu DOTROIP[1][2]) yn benderfyniad cyfreithiol nad yw'n rhwymol a basiwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2007. Mae'n amlinellu ac yn diffinio hawliau unigol a chyfunol pobloedd brodorol, gan gynnwys eu hawliau perchnogaeth i fynegiant diwylliannol a seremonïol, hunaniaeth, iaith, cyflogaeth, iechyd, addysg, a materion eraill. Mae hefyd yn gwarchod eu heiddo deallusol a diwylliannol[3]
Mae'r Datganiad "yn pwysleisio hawliau pobl frodorol i gynnal a chryfhau eu sefydliadau, diwylliannau a thraddodiadau eu hunain, ac i ddilyn eu datblygiad yn unol â'u hanghenion a'u dyheadau eu hunain." Mae'n "gwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobloedd brodorol," ac mae'n "annog eu cyfranogiad llawn ac effeithiol ym mhob mater sy'n ymwneud â nhw a'u hawl i aros yn wahanol ac i ddilyn eu gweledigaethau eu hunain o ran datblygiad economaidd a chymdeithasol".
Nod y datganiad yw annog gwledydd i weithio ochr yn ochr â phobloedd brodorol i ddatrys materion byd-eang, megis datblygu, democratiaeth amlddiwylliannol, a datganoli.[4]
Ar 13 Medi 2007, pleidleisiodd y Cenhedloedd Unedig o fwyafrif helaeth dros y Datganiad: 144 o blaid, 4 yn erbyn, ac 11 yn ymatal.[5] Ers 2007, mae’r pedair gwlad a bleidleisiodd yn erbyn wedi gwrthdroi eu safbwynt ac maent bellach yn cefnogi’r Datganiad.
O Chwefror 2020, mae Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, Pobl Gynhenid yn disgrifio (A/RES/61/295) fel: “...yr offeryn rhyngwladol mwyaf cynhwysfawr ar hawliau pobl frodorol. Mae’n sefydlu fframwaith cyffredinol o safonau gofynnol ar gyfer goroesiad, urddas a lles pobloedd brodorol y byd ac mae’n ymhelaethu ar safonau hawliau dynol a rhyddid sylfaenol presennol fel y maent yn berthnasol i sefyllfa benodol pobloedd brodorol.”[6]
Fel Datganiad y Cynulliad Cyffredinol, nid yw UNDRIP yn offeryn cyfreithiol rwymol o dan gyfraith ryngwladol.[7][8] Yn ôl datganiad i'r wasg gan y Cenhedloedd Unedig mae'n "cynrychioli datblygiad deinamig normau cyfreithiol rhyngwladol ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig i symud i rai cyfeiriadau"; mae'r Cenhedloedd Unedig yn ei ddisgrifio fel un sy'n gosod "safon bwysig ar gyfer trin pobl frodorol a fydd, heb os, yn arf arwyddocaol tuag at ddileu troseddau hawliau dynol yn erbyn 370 miliwn o bobl frodorol y blaned, a'u cynorthwyo i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac ymyleiddio.
Cymhwyso
Mae gan nifer o wledydd ôl-ymerodraethol sydd â chyfrannau mawr o ymsefydlwyr-trefedigaethol o'r boblogaeth gyfan brosesau ar y gweill i gydnabod a gwireddu hawliau pobl frodorol yn ymarferol. Mae'r rhain yn cynnwys Seland Newydd, Canada,[9] ac Awstralia . [10]
Gwadu bodolaeth pobloedd brodorol
Nid yw sawl gwladwriaeth yn cydnabod lleiafrifoedd ethnig brodorol o fewn eu tiriogaethau fel pobl frodorol, ac yn syml yn cyfeirio atynt fel lleiafrifoedd ethnig. Mae llawer o'r lleiafrifoedd ethnig hyn wedi'u gwthio i'r cyrion o'r boblogaeth ethnig fwyafrifol mewn mesurau perfformiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cymharol ac mae eu hawliau brodorol wedi'u hamddiffyn yn wael. Mae llofnodwyr UNDRIP sy'n diystyru'r bwriad a amlinellir yn erthyglau UNDRIP yn cynnwys Gweriniaeth Pobl Tsieina[11] a Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam.[12]
Cynnwys
Mae'r Datganiad wedi'i strwythuro fel penderfyniad y Cenhedloedd Unedig, gyda 23 o gymalau rhagbrofol a 46 o erthyglau. Yn y rhan fwyaf o erthyglau, cynhwysir y dyhead ar gyfer sut y dylai'r Wladwriaeth hyrwyddo a diogelu hawliau pobl frodorol. Mae prif themâu'r erthyglau'n cynnwys: [3]
Hawliau unigolion a phobloedd (brodorol) i hunan-benderfynu (Erthyglau 1 - 8; 33 - 34)
Hawliau unigolion a phobl (brodorol) i amddiffyn eu diwylliant trwy ddefodau, arferion, ieithoedd, addysg, y cyfryngau, a chrefydd, gan gynnwys rheoli eu heiddo deallusol (Erthyglau 9 - 15, 16, 25, a 31)
Cadarnhau hawl y bobl frodorol i lywodraethu yn ei dull unigryw ei hun, ac i ddatblygiad economaidd yn ol eu hangen (Erthyglau 17 - 21, 35 - 37)
Hawliau iechyd (Erthygl 23 - 24)
Amddiffyn is-grwpiau, henoed, menywod a phlant (Erthygl 22)
Hawliau tir - o berchnogaeth (gan gynnwys gwneud iawn, neu ddychwelyd tir h.y Erthygl 10) i faterion amgylcheddol (Erthyglau 26 - 30, a 32)
Pennu sut y dylid dehongli'r ddogfen hon wrth gyfeirio ati yn y dyfodol (Erthyglau 38 - 46).
Gwledydd Prydain
Wrth siarad ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd Llysgennad y DU a Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol i’r Cenhedloedd Unedig, Karen Pierce, "nad oedd y Datganiad yn gyfreithiol rwymol ac nad oedd yn wneud unrhyw geisiadau ôl-weithredol o ddigwyddiadau hanesyddol. Nid yw'r grwpiau lleiafrifol cenedlaethol a grwpiau ethnig eraill o fewn tiriogaeth y Deyrnas Unedig a’i thiriogaethau tramor yn dod o fewn cwmpas y bobloedd brodorol yr oedd y Datganiad yn berthnasol iddynt."