Cysyniad o'r gwyddorau ymddygiadol yw damcaniaeth yr hergwd sydd yn cynnig ffordd amgen o atgyfnerthu cadarnhaol neu awgrymu anuniongyrchol i ddylanwadu ar weithredoedd, cymhelliant a dewisiadau grwpiau neu unigolion. Honnir bod hergydiau yr un mor effeithiol, os nad yn fwy effeithiol, na chyfarwyddyd uniongyrchol, deddfwriaeth neu orfodaeth.
Diffinio hergwd
Yn 2008 daeth llyfr Richard Thaler a Cass Sunstein, Nudge: Improving Decisions About Health, Wealth, and Happiness, â damcaniaeth yr hergwd i amlygrwydd. Daeth hefyd i sylw gwleidyddion yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig, yn y sector breifat ac iechyd cyhoeddus.[2] Cyfeiria'r awduron at ddylanwadu ymddygiad heb orfodaeth fel tadolaeth ryddfrydol a dylanwadwyr fel choice architectures. Diffina Thaler a Sunstein eu cysyniad fel:
“
A nudge, as we will use the term, is any aspect of the choice architecture that alters people's behavior in a predictable way without forbidding any options or significantly changing their economic incentives. To count as a mere nudge, the intervention must be easy and cheap to avoid. Nudges are not mandates. Putting fruit at eye level counts as a nudge. Banning junk food does not.
”
Yn y modd hwn, yn tynnu oddi ar economeg ymddygiadol, caiff hergwd ei ddefnyddio i ddylanwadu ar ymddygiad. Dyfarnwyd Gwobr Nobel am Economeg i Thaler yn 2017 am ei waith yn namcaniaeth yr hergwd.[3]
Enghraifft o hergwd ar waith yw system optio allan yn hytrach na system optio i mewn.[1] Yng Nghymru yn 2015, cyflwynwyd "caniatâd tybiedig" o ran rhoi organau os nad yw'r unigolyn yn optio allan, gyda'r nod o gynyddu'r nifer o bobl sydd yn rhoi organau.[4]