Dai Jones

Gweler hefyd: David Jones
Dai Jones
GanwydDavid John Jones Edit this on Wikidata
18 Hydref 1943 Edit this on Wikidata
Putney Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
Llanilar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu, ffermwr, cyflwynydd radio, canwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata


Canwr, ffermwr, a chyflwynydd teledu a radio o Gymru oedd Dai Jones MBE (18 Hydref 19434 Mawrth 2022).[1][2] Roedd yn byw yn Llanilar ger Aberystwyth, Ceredigion ac yn cael ei adnabod gan lawer fel Dai Llanilar. Roedd yn cadw gwartheg a defaid ar ei fferm, Berthlwyd. Yn ddiweddarach roedd y ffarm yn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.

Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fi Dai Sy' 'Ma ym 1997 ac ail gyfrol Tra Bo Dai yn 2016.[2]

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i deulu o ffermwyr Cymreig. Symudodd i Gymru pan yn dair oed a fe'i magwyd gan ei ewythr a'i fodryb ar eu fferm laeth yn Brynchwith, Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol yn Llangwyryfon ac Ysgol Dinas, Aberystwyth a cychwynodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu ei arholiad 11-plus yn fwriadol er mwyn osgoi mynd i ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno.

Roedd yn weithgar gyda'r capel, Eisteddfod yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc a roddodd hyn fagwraeth iddo yn niwylliant a thraddodiadau Cymru. Fel tenor ifanc addawol byddai'n gadael y fferm ar ôl godro a mynd i gael gwersi canu yn Aberystwyth, gan y cyn ganwr opera Redvers Llewelyn, cyn dychwelyd i odro eto yn y prynhawn. Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl o Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth a Colin Jones, Rhosllanerchrugog.[2]

Gyrfa

Canwr

Clawr record 'Goreuon Dai Llanilar'

Yn y 1960au daeth yn denor medrus ac enillodd gystadlaethau yn Eisteddfodau'r Urdd yng Nghaerfyrddin a Llanrwst. Yn 1970 enillodd wobr Canwr y Flwyddyn yn Llangollen ac y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970. Daeth i'r brig hefyd yng ngwyliau Pantyfedwen, Aberteifi, Môn a Phowys.[3]

Yn ystod y cyfnod yma, teithiodd y byd yn canu a rhyddhaodd chwech record LP ar label Recordiau Cambrian.[4]

Cyflwynydd

Darlledodd Dai ar Radio Cymru am y tro cyntaf yn 1962 pan weithiodd ar y rhaglen Sêr y Siroedd. Cyflwynodd y rhaglen Ar Eich Cais ar yr orsaf rhwng 2007 a 2018.

Yn 1971 cychwynnodd gyflwyno y cwis teledu Siôn a Siân ar HTV Cymru a parhodd nes i'r gyfres wreiddiol ddod i ben yn 1987. Yn yr 1980au cynnar gofynnodd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Geraint Rees iddo gyflwyno'r gyfres Cefn Gwlad. Roedd Rees yn cynhyrchu rhaglen o'r un enw ar sianel HTV Cymru gynt, a oedd yn dangos pigion o fywyd cefn gwlad, a symudodd y rhaglen i S4C ar ei lansiad yn 1982. Testun y rhaglen gyntaf iddo gyflwyno oedd Berthlwyd, sef ei fferm ei hun. I genhedlaeth o wylwyr dyma'r sioe a gysylltir yn bennaf gyda Dai Jones, a daeth yn nodedig am ei ddigrifwch naturiol. Yn ogystal a'r rhaglenni arferol o leoliadau yng Nghymru gwnaed rhifynnau arbennig am anturiaethau Dai wrth deithio dramor.[5]

Yn ystod ei yrfa darlledu, cyflwynodd nifer o raglenni eraill ar S4C yn cynnwys rhaglenni o Sioe Llanelwedd, Noson Lawen, a Rasus.

Cafodd ei ddychanu yn aml ar raglen gartŵn Gymraeg Cnex.

Yn 2018, cychwynodd cyfres newydd o Cefn Gwlad gyda fformat newydd. Ehangwyd y rhaglen i awr o hyd ac ymunodd pedwar o gyflwynwyr newydd wrth law i helpu Dai, sef Meleri Williams, Ioan Doyle, Mari Lovgreen, Rhys Lewis ac Elis Morris.[6] Cyhoeddodd ei ymddeoliad o waith teledu ym mis Rhagfyr 2020, wedi cyfnod hir o salwch.[7]

Gwobrau ac anrhydeddau

Gwobrwywyd gydag MBE am wasanaethau i adloniant yng Nghymru ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym 1999.[8]

Enillodd Jones wobr BAFTA Cymru yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu ar y teledu a'r radio yng Nghymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd wobr Syr Bryner Jones am ei gyfraniad i faterion gwledig a fe'i wnaed yn Gymrawd Coleg Prifysgol Cymru ddydd Gwener gan un o'i arwyr, Elystan Morgan.[9]

Daeth yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig ar ei ganmlwyddiant yn 2004/05.

Bywyd personol

Cyfarfu ei wraig Olwen mewn cystadleuaeth da godro yn Nhrawsgoed. Priododd y cwpl ar 22 Hydref 1966 ac mae ganddynt fab, John.

Bu farw yn 78 mlwydd oed yn ei gartref yn Erw Deg, Rhosygarth, Llanilar. Cynhaliwyd ei angladd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Carmel, Llanilar ar ddydd Sadwrn, 19 Mawrth 2022 am 12 o'r gloch.[10]

Disgyddiaeth

Cyfeiriadau

  1. Dai Jones, Llanilar wedi marw yn 78 oed , BBC Cymru Fyw, 4 Mawrth 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 Lyn Ebenezer. (1997). Cyfres y Cewri: 17. Fi Dai Sy' 'Ma. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860741428URL
  3.  Dai Jones - bywgraffiad. Recordiau Sain. Adalwyd ar 1 Medi 2017.
  4. Dai Jones Llanilar's Royal Welsh honour (en) , Daily Post, 15 Gorffennaf 2010.
  5.  Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe. S4C Press Department.
  6. Pobl ifanc sy’n cadw fflam Cefn Gwlad yn fyw , Pembrokeshire Herald, 27 Chwefror 2018. Cyrchwyd ar 4 Mawrth 2022.
  7. Dai Jones Llanilar yn ymddeol , Golwg360, 17 Rhagfyr 2020.
  8.  MBE civil (H - M). BBC (31 Rhagfyr 1999).
  9. Gwobr i Dai Jones, Llanilar , BBC Cymru, 20 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd ar 1 Medi 2017.
  10.  Hysbysiad marwolaeth David John Jones. Western Mail (12 Mawrth 2022).