Emynydd Cymraeg oedd Dafydd Morris (David Morris mewn rhai ffynnonellau) (1744 – 17 Medi 1791). Fe'i ganed ym mhlwyf Lledrod, Ceredigion.[1]
Porthmon oedd Dafydd Morris yn ei ieuenctid. Ymsefydlodd ym mhlwyf Troed-yr-Aur, Ceredigion yn 1774 ar ôl troedigaeth i Fethodistiaeth a daeth yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.[1]
Cyhoeddwyd casgliad o'i emynau yn 1773, sef Cân y Pererinion Cystuddiedig.[1]
Cyfeiriadau
Gweler hefyd