D. C. Harries

D. C. Harries
Ganwyd1866 Edit this on Wikidata
Bu farw1940 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata

Ffotograffydd oedd David Harries (c.18661940). Fe'i adnabyddwyd fel D. C. Harries, er nad oedd yr 'C' yn rhan o'i enw swyddogol - fe'i hychwanegodd er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth yr holl 'David Harries' eraill yn Llandeilo.

Cychwynodd ei fusnes ffotograffeg yn 1888 pan oedd yn 22 oed, gan agor stiwdio ar Stryd Caerfyrddin, Llandeilo. Erbyn 1914 roedd wedi symud i Stryd Rhosmaen yn y dref ac roedd ganddo hefyd stiwdio fechan yn Stryd y Neuadd, Rhydaman. Ond erbyn 1926, roedd wedi rhoi'r gorau i'r stiwdio yn Rhydaman.

Roedd ganddo 4 mab, a newidiodd enw'r busnes i 'D. C. Harries a'i feibion', gan agor cangen yn Llanymddyfri. Gadawyd casgliad negyddion D. C. Harries i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn ewyllys Hugh Newton Harries, mab olaf D. C. Harries i oroesi, yn 1976. Argraffwyd nifer o'r ffotograffau, gan gynnwys llun o D. C. Harries a'i deulu, yn llyfr Iestyn Hughes, D. C. Harries - Casgliad o Ffotograffau.

Bu D. C. Harries farw yn 1940 yn 75 oed.

Llyfryddiaeth

R. Iestyn Hughes, Casgliad o ffotograffau D. C. Harries, 1996

Dolenni allanol