Yn 2022-3 roedd Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig yn negodi cytundeb rhyngwladol, sy'n gyfreithiol-rwym[1], ar blastig a fydd yn mynd i'r afael â chylch bywyd cyfan: o ddylunio i gynhyrchu ac i waredu. Ar 2 Mawrth2022 pleidleisiodd Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig yn y pumed Cynulliad Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a ailddechreuwyd (UNEA-5.2) i sefydlu Pwyllgor Negodi Rhynglywodraethol (INC) gyda’r nod o hyrwyddo cytundeb rhyngwladol sy’n rhwymo gwledydd yn gyfreithiol ar faterion plastig.[2][3][4] Teitl y cynnig yw “Diwedd ar lygredd plastig: Tuag at offeryn cyfreithiol-rwym, rhyngwladol.”
Cynnwys
Cytunodd Gwladwriaethau y bydd y cytundeb yn rhyngwladol ei gwmpas, yn gyfreithiol-rwym, ac y dylai fynd i'r afael â chylch bywyd llawn plastigion, gan gynnwys ei ddylunio, ei gynhyrchu a'i waredu. [5] Dadleuwyd bod angen mynd i'r afael â chemegau sydd wedi'u cynnwys mewn plastigion fel ychwanegion, cymhorthion yn y gwaith o'u prosesu, a sylweddau anfwriadol hefyd.[6][7]
Cefnogaeth i'r cytundeb
Yn y cyfnod yn arwain at UNEA-5.2, roedd y mwyafrif o Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig wedi mynegi eu cefnogaeth i hyrwyddo cytundeb byd-eang.[8] Mae grwpiau eraill sy'n gwneud datganiadau cyhoeddus am yr angen am gytundeb yn cynnwys y sector busnes,[9] cymdeithasau sifil, Pobl Gynhenid, gweithwyr, undebau llafur,[10] a gwyddonwyr.[11]
↑Simon, Nils; Raubenheimer, Karen; Urho, Niko; Unger, Sebastian; Azoulay, David; Farrelly, Trisia; Sousa, Joao; van Asselt, Harro et al. (2021-07-02). "A binding global agreement to address the life cycle of plastics". Science373 (6550): 43–47. doi:10.1126/science.abi9010. PMID34210873.