Y niferoedd o fewnfudwyr a siapiodd y gymuned Affro-Garibïaidd Brydeinig, cymuned sydd yn cynnwys tua 600 000 o ddinasyddion y DU sydd wedi cael dylanwad sylweddol ar ddiwylliant, chwaraeon, y cyfryngau, a gwleidyddiaeth; y diwydiant twristiaeth sy'n denu miliwn o Brydeinwyr i ynysyoedd y Caribî pob blwyddyn; iaith a systemau cyfreithiol, addysgiadol a seneddol tebyg; a chysylltiadau masnachol gydag allforion Prydeinig i'r Caribî werth £1000 miliwn y flwyddyn yw seiliau cryfder perthynas y Deyrnas Unedig â gwledydd y Caribî.[3]
Cysylltiadau agos a chyfeillgar sydd rhwng y Deyrnas Unedig a Pavistan; o 1858 i 1947 roedd Pacistan yn rhan o'r Raj Brydeinig ac ers Rhaniad India mae cysylltiadau gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd rhwng y ddwy wlad wedi ffynnu. Yn ogystal â chysylltiadau dwyochrog, mae perthynas y ddwy wlad wedi'i chryfhau gan gysylltiadau trwy'r Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd.
Gwerth masnach rhwng y DU a Pacistan yw rhyw £1013 miliwn y flwyddyn, ac mae dros 100 o fusnesau Prydeinig yn gweithredu yn Pacistan.[4] Mae rhyw 800 000 o Brydeinwyr Pacistanaidd yn byw yn y DU,[4] ac maent wedi cael effaith sylweddol ar ddiwylliant y Deyrnas Unedig yn y ganrif ddiwethaf.
Mae'r DU yn rhoddwr cymorth i Rwsia. Dechreuodd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol gweithio'n ddwyochrog â'r Ffederasiwn ar ddechrau'r 1990au, wrth gefnogi trawsnewidiad y wlad i economi marchnad. Ers 2002 canolbwynt polisïau datblygu yw diwygiadau gweinyddol a chymdeithasol llywodraeth Rwsia. Yn y flwyddyn ariannol 2005/2006, gwariodd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad rhyw £2.2 miliwn fel cymorth datblygu, a'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol rhyw £7 miliwn ar Rwsia, yn cynnwys arian ar gyfer gweithredoedd dyngarol yng Ngogledd y Cawcasws.[6]
O ran cysylltiadau economaidd, y DU oedd y buddsoddwr mwyaf yn Rwsia yn 2006 a 2007, gyda dros 400 o gwmnïau Prydeinig yn weithredu yn y Ffederasiwn. Cynydda masnach rhwng y ddwy wlad tua 25% y flwyddyn am y pum mlynedd ddiwethaf.[6]
Yr Unol Daleithiau
Mae cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol cryf rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau wedi datblygu perthynas wleidyddol a milwrol agos iawn yn yr 20g. Y Deyrnas Unedig oedd prif gynghreiriad yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Oer ac nawr yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth. Yn ôl polisi cyfredol y Swyddfa Dramor, "perthynas ddwyochrog bwysicaf" y Deyrnas Unedig yw'r cynghrair drawsiwerydd â'r Unol Daleithiau.[7] Ym mlynyddoedd diweddar, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ac Arlywydd yr Unol Daleithiau yn aml wedi cael cyfeillgarwch agos â'i gilydd, e.e. Margaret Thatcher a Ronald Reagan, Tony Blair a George W. Bush. Yn aml gelwir y berthynas rhwng y ddwy wlad yn "y berthynas arbennig" (special relationship). Mae'n deg dweud serch hynny nad oedd gefnogaeth lwyr gan y bobl gyffredin i'r berthynas glos rhwng Tony Blair a George W. Bush, yn arbennig yn achos mynd i ryfel yn erbyn Irac yn 2003. Roedd mwyafrif o'r bobl am weld cynnig arall ger bron y Cenedloedd Unedig cyn mynd i ryfel.
Mae yna hefyd gysylltiadau economaidd a masnachol cryf rhwng y ddwy wlad: yr Unol Daleithiau yw marchnad fwyaf y Deyrnas Unedig. Cynrychiola'r Deyrnas Unedig rhyw 17% o holl fuddsoddiad uniongyrchol tramor yr Unol Daleithiau, a'r DU yw prif dderbynnydd buddsoddiad uniongyrchol tramor yr UD.[8]