Cymdeithas Bêl-droed Ynysoedd Ffaröe (Ffaroeg: Fótbóltssamband Føroya; Daneg: Færøernes fodboldforbund), neu FSF, yw corff llywodraethu pob pêl-droed domestig yn Ynysoedd Ffaröe, a'r lefel uchaf ohono yw Uwch Gynghrair Ynysoedd Faroe. Mae hefyd yn rhedeg timau cenedlaethol Ynysoedd Ffaro ar gyfer dynion a menywod. Wedi'i sefydlu ym 1979, mae wedi'i leoli yn y brifddinas, Tórshavn.
Hanes
Mae pêl-droed wedi'i drefnu wedi cael ei chwarae yn y Faroes ers diwedd y 19g. Cynhaliwyd cynghrair pêl-droed genedlaethol gyntaf Ffaroe (y Meistaradeildin) yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn 1942. Rhwng 1942 a 1978 roedd holl bêl-droed Ffaro yn cael ei lywodraethu gan yr ÍSF (Cymdeithas Chwaraeon Ffaröe). Ar 13 Ionawr 1979 sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Ffaröe. Ar y dechrau, gweithiodd gyda threfnu pêl-droed Ffaröe. Cynhaliwyd cynghrair pêl-droed genedlaethol gyntaf Ffaröe i ferched ym 1985.
Yn yr 1980au dechreuodd Cymdeithas Bêl-droed Ffaröe hyfforddi hyfforddwyr a rheolwyr. Ar y dechrau fe’i gwnaed gyda chymorth Denmarc (mae'r Ynysoedd yn wlad hunan-lywodraethol ond yn rhan o Deyrnas Denmarc, a doedd dim tîm pêl-droed genedlaethol ryngwladol gan yr Ynysoedd ar y pryd. Newidiodd y sefyllfa, ac ers canol y 1990au mae’r hyfforddiant hwn bellach wedi bod o dan gyfrifoldeb Ffaroaidd llawn.
Ar 2 Gorffennaf1988 enillodd Ynysoedd Ffaröe aelodaeth o FIFA, ac ar 18 Ebrill 1990 fe wnaethant ennill aelodaeth o UEFA.[2] Ers hynny mae'r Faroes wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau pêl-droed rhyngwladol llawn.
Wedi ennill statws ryngwladol llamodd Tîm pêl-droed cenedlaethol Ynysoedd Faroe ar y llwyfan ryngwladol gan "ennill" gêm gyfartal gyda thîm Awstria yn 1990 - gan hynny synnwyd y byd gan lwyddiant gymharol tîm a gwlad doedd y rhan fwyaf o bobl erioed wedi clywed amdanno.[1]