Cymdeithas Adeiladu Abertawe

Cymdeithas Adeiladu Abertawe
Math
busnes
Diwydiantgwasanaethau ariannol
Sefydlwyd6 Chwefror 1923
PencadlysAbertawe
Gwefanhttp://www.swansea-bs.co.uk Edit this on Wikidata

Cymdeithas adeiladu wedi ei leoli yn Abertawe yw Cymdeithas Adeiladu Abertawe, (Saesneg:Swansea Building Society). Mae'n aelod o Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu.

Ffurfiwyd y gymdeithas yn 1923. Heddiw mae un o'r tair cymdeithas adeiladu gydfuddiannol sydd ar ôl yng Nghymru ac yn honni bod yr unig fanc neu gymdeithas adeiladu a'i bencadlys yng Ngorllewin Cymru. Yn Rhagfyr 2014 roedd cyfanswm asedau'r gymdeithas yn £227.7 miliwn gyda dros 11,155 o gynilwyr a 1,482 o fenthycwyr.[1] Y prif weithredwr yw Alun Williams.[2]

Elwodd Cymdeithas Adeiladu Abertawe o argyfwng ariannol Gwlad yr Ia yn 2009, wrth i gynilwyr lleol edrych i fuddsoddi mewn sefydliad diogelach. Agorodd y gymdeithas gangen tu allan i ganol dinas Abertawe am y tro cyntaf yn ei hanes.[3] Yn Mai 2010, lansiodd y gymdeithas gyfrif cynilo mewn partneriaeth â chlwb pêl-droed Abertawe, yn ennill incwm ychwanegol i'r clwb drwy gomisiwn.[4]

Cyfeiriadau

  1. "Swansea Building Society – About Us". Swansea Building Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-04. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2010.
  2. "Extract from Building Societies Yearbook 2009/10" (PDF). Building Societies Association. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-12-24. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2010.
  3. "Building society profits from Icelandic crash". South Wales Evening Post. 29 Ebrill 2010. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2010.
  4. "Swansea Building Society". Swansea City Football Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-29. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2010.

Dolenni allanol