Cyfrifiadura

Cyfrifiadur cynnar (1967) mewn archifdy yng Nghaliffornia
Llond ystafell o gyfrifiaduron ym Mhrifysgol Abertawe, 2015

Cyfrifiadura yw unrhyw weithgaredd sy'n defnyddio cyfrifiaduron. Mae'n cynnwys datblygu caledwedd a meddalwedd, a defnyddio cyfrifiaduron i reoli a phrosesu gwybodaeth, cyfathrebu a difyrru. Mae cyfrifiadureg yn elfen hanfodol bwysig o fewn y byd technolegol, ddiwydiannol modern. Mae'r prif ddisgyblaethau cyfrifiadurol yn cynnwys peirianneg gyfrifiadurol, peirianneg meddalwedd, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, systemau gwybodaeth a thechnoleg gwybodaeth.[1]

Diffiniad

Yn 2005, diffiniwyd 'cyfrifiadura' gan Gymdeithas Peiriannau Cyfrifiadura (Association for Computing Machinery)[2][3] fel hyn:

"Yn gyffredinol, gallwn ddiffinio 'cyfrifiadura' i olygu unrhyw weithgaredd sy'n canolbwyntio, gofyn, elwa neu'n creu cyfrifiaduron. Felly, mae cyfrifiadureg yn cynnwys dylunio ac adeiladu systemau caledwedd a meddalwedd ar gyfer ystod eang o ddibenion; prosesu, strwythuro a rheoli gwahanol fathau o wybodaeth; gwneud astudiaethau gwyddonol gan ddefnyddio cyfrifiaduron; gwneud i systemau cyfrifiadurol ymddwyn yn ddeallus; creu a defnyddio cyfryngau cyfathrebu ac adloniant; dod o hyd i wybodaeth a chasglu gwybodaeth sy'n berthnasol i unrhyw bwrpas penodol, ac yn y blaen. Mae'r rhestr bron yn ddiddiwedd, ac mae'r posibiliadau'n enfawr."

Disgrifiodd y gymdeithas y maes hwn ymhellach, gan nodi pum disgyblaeth o fewn 'maes' cyfrifiadura: gwyddoniaeth gyfrifiadurol, peirianneg cyfrifiadurol, systemau gwybodaeth, technoleg gwybodaeth a pheirianneg meddalwedd.[4]

Hanes

Mae'r gair 'cyfirifiadura' yn dod o 'gyfri' rhifau, a gellir olrhain hanes y cyfrifiadur a chyfri i'r abacws cyntaf y gwyddom amdano, a wnaed ym Mabilon yn 2400 CC. Cafwyd sawl peiriant mecanyddol yn ail hanner yr 20g, oedd yn hwyluso ac yn cyflymu'r broses o gyfrifo.

"Cyfrifiadur Graddfa Dau", a gynlluniwyd gan y Cymro C. E. Wynn-Williams.

Y disgrifiad cyntaf o ddefnyddio electroneg ddigidol ar gyfer cyfrifiadura oedd mewn papur a gyhoeddwyd yn 1931, "Y Defnydd o 'Thyratrons' ar gyfer Cyfrifo Otomatig ar Gyflymder Uchel Cyfatebol y Ffenomenau Ffisegol" ("The Use of Thyratrons for High Speed Automatic Counting of Physical Phenomena") gan C. E. Wynn-Williams, Cymro Cymraeg a aned yn Abertawe, symudodd i Wrecsam a graddiodd ym Mhrifysgol Bangor.[5][6][7] Copiwyd ei waith drwy'r byd, ac agorwyd nifer o ddrysau ym maes cyfifiaduro o'i herwydd.

Y cyfrifiadur

Peiriant yw cyfrifiadur sy'n trin data yn ôl set o gyfarwyddiadau a elwir yn "rhaglen gyfrifiadurol". Mae gan y rhaglen ddull o weithredu y gall y cyfrifiadur ei 'ddeal' hy ei ddefnyddio'n uniongyrchol i weithredu'r cyfarwyddiadau. Mae'r un rhaglen, ar ffurf cod sy'n ddarllenadwy gan ddyn, yn galluogi rhaglenydd i astudio a datblygu dilyniant o gamau a elwir yn algorithm. Oherwydd y gellir cyflawni'r cyfarwyddiadau mewn gwahanol fathau o gyfrifiaduron, mae set sengl o gyfarwyddiadau yn cael eu trosi'n gyfarwyddiadau peiriant mewn uned prosesu canolog.

Cyfeiriadau

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; adalwyd 31 Hydref 2018.
  2. The Joint Task Force for Computing Curricula 2005. "Computing Curricula 2005: The Overview Report" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (pdf) ar 2014-10-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Cyfieiwyd yr uchod o'r Saesneg gwreiddiol, sef: "In a general way, we can define computing to mean any goal-oriented activity requiring, benefiting from, or creating computers. Thus, computing includes designing and building hardware and software systems for a wide range of purposes; processing, structuring, and managing various kinds of information; doing scientific studies using computers; making computer systems behave intelligently; creating and using communications and entertainment media; finding and gathering information relevant to any particular purpose, and so on. The list is virtually endless, and the possibilities are vast."
  4. "Curricula Recommendations". Association for Computing Machinery. 2005. Cyrchwyd 2012-11-30.
  5. Copeland 2006, t. 64
  6. Wynn-Williams 1931
  7. Rutherford, Wynn-Williams & Lewis 1931