Cyfres o ddramâu neu gynyrchiadau theatr Cymraeg yw Cyfres I'r Golau, wedi'u cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch. Lansiwyd y gyfres ym 1995, ac mae'n cynnwys nifer o gynyrchiadau nodedig y Theatr Gymraeg rhwng 1979 a'r 2010au.
Bargen (1979) gan Theatr Bara Caws oedd y dewis cyntaf, fel yr eglurodd Myrddin ap Dafydd yn ei Ragair i'r cyhoeddiad hwnnw: "...gwyddai pawb fod rhywbeth arbennig, cwbl arbennig ar droed yn y theatr Gymraeg."[1] Dilynwyd y cynhyrchiad hwnnw gan Hwyliau'r Codi (1979) eto'n gywaith creadigol gan Bara Caws, a drama ddadleuol Meic Povey, Perthyn (1987) oedd yn cwblhau'r drioled cychwynol.