Maent yn tarddu o gi hela o'r Oesoedd Canol o'r enw'r Sbaengi Gosod a gafodd ei hyfforddi i ganfod adar ac yna i "osod", hynny yw i orwedd ger yr adar i alluogi'r heliwr i daflu rhwyd dros yr adar a'r ci. Pan gafodd drylliau eu mabwysiadu gan helwyr, hyfforddwyd cyfeirgwn i sefyll tra'n cyfeirio.[6]