Mae'r ICESCR (a'i Brotocol Dewisol) yn rhan o'r Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol, ynghyd â'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) a'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR), gan gynnwys y Protocolau Dewisol cyntaf ac ail.[2]
Mae'r Cyfamod yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.[3]
Sefydlu
Mae ICESCR yn tarddu o'r un broses a arweiniodd at y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.[4] Roedd "Datganiad ar Hawliau Hanfodol Dyn" wedi'i gynnig yng Nghynhadledd San Francisco 1945 a arweiniodd at sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, a rhoddwyd y dasg i'r Cyngor Economaidd a Chymdeithasol i'w ddrafftio.[2] Yn gynnar yn y broses, rhannwyd y ddogfen yn ddatganiad yn nodi egwyddorion cyffredinol hawliau dynol, a chyfamod a oedd yn cynnwys ymrwymiadau rhwymol. Esblygodd y cyntaf i'r UDHR ac fe'i mabwysiadwyd ar 10 Rhagfyr 1948.[2]
Parhaodd y gwaith drafftio ar y confensiwn, ond cafwyd gwahaniaethau sylweddol rhwng aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar bwysigrwydd cymharol hawliau sifil a gwleidyddol negyddol yn erbyn hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cadarnhaol.[5] Yn y pen draw, achosodd y rhain i'r confensiwn gael ei rannu'n ddau gyfamod ar wahân, "un i gynnwys hawliau sifil a gwleidyddol a'r llall i gynnwys hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol." [6] Byddai'r ddau gyfamod yn cynnwys cymaint o ddarpariaethau tebyg â phosibl, ac fe'u hagorwyd i'w llofnodi ar yr un pryd.[6] Byddai pob un hefyd yn cynnwys erthygl ar hawl pobloedd i hunanbenderfyniad.[7]
Rhaid i'r Gwladwriaethau Cyfrannog yn y Cyfamod presennol, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldeb am weinyddu Tiriogaethau Anhunanlywodraethol a Thiriogaethau Ymddiriedol, hybu gwireddu'r hawl i hunanbenderfyniad, a rhaid iddynt barchu'r hawl honno, yn unol â darpariaethau Siarter y Cenhedloedd Unedig.[8]
Daeth y ddogfen gyntaf yn Gyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, a'r ail yn Gyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Cyflwynwyd y drafftiau i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i'w trafod yn 1954, a'u mabwysiadu ym 1966.[9]
Crynodeb
Mae'r Cyfamod yn dilyn strwythur yr UDHR a'r ICCPR, gyda rhagymadrodd a dau-ddeg-un o erthyglau, wedi'u rhannu'n bum rhan:
Mae Rhan 1 (Erthygl 1) yn cydnabod yr hawl i holl bobloedd y byd i hunanbenderfynu, gan gynnwys yr hawl i "benderfynu'n rhydd ar eu statws gwleidyddol",[10] dilyn eu nodau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a rheoli a chael gwared ar eu hadnoddau eu hunain. Mae'n cydnabod hawl negyddol pobl i beidio â chael eu hamddifadu o gynhaliaeth (yr hyn sy'n eu cynnal),[11] ac yn gosod rhwymedigaeth ar y partïon hynny sy'n dal i fod yn gyfrifol am diriogaethau nad ydynt yn hunanlywodraethol a thiriogaethau ymddiriedolaethau, sef cytrefi (colonies) i annog a pharchu eu hunanbenderfyniad.[12]
Mae Rhan 2 (Erthyglau 2–5) yn sefydlu'r egwyddor o "wireddiad cynyddol" (progressive realisation: gweler isod.) Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r hawliau gael eu cydnabod “heb wahaniaethu o unrhyw fath o ran hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall”.[13] Dim ond yn ôl y gyfraith y gellir cyfyngu'r hawliau, mewn modd sy'n gydnaws â natur yr hawliau, a dim ond at ddiben "hyrwyddo lles cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd".[14]
Mae Rhan 3 (Erthyglau 6–15) yn rhestru'r hawliau eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau i
gwaith, o dan "amodau cyfiawn a ffafriol",[15] gyda'r hawl i ffurfio ac ymuno ag undebau llafur (Erthyglau 6, 7, ac 8);
nawdd cymdeithasol, gan gynnwys yswiriant cymdeithasol (Erthygl 9);
bywyd teuluol, gan gynnwys absenoldeb rhiant â thâl ac amddiffyn plant (Erthygl 10);
iechyd, yn benodol "y safon uchaf o iechyd corfforol a meddyliol" (Erthygl 12);
addysg, gan gynnwys addysg gynradd am ddim i bawb, addysg uwchradd sydd ar gael yn gyffredinol ac addysg a ddylai fod yr un mor hygyrch. Dylid cyfeirio hyn at "ddatblygiad llawn y bersonoliaeth ddynol a'r ymdeimlad o urddas",[16] a galluogi pob person i gymryd rhan yn effeithiol mewn cymdeithas (Erthyglau 13 a 14);
cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol (Erthygl 15).
Mae Rhan 4 (Erthyglau 16–25) yn rheoli adrodd yn ôl a monitro'r Cyfamod a'r camau a gymerir gan y partïon i'w roi ar waith. Mae hefyd yn caniatáu i'r corff monitro – yn wreiddiol Cyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig – sydd bellach yn Bwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol wneud argymhellion cyffredinol i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar fesurau priodol i wireddu'r hawliau (Erthygl 21).
Mae Rhan 5 (Erthyglau 26–31) yn ymwneud â'r Cyfamod: rheoli sut mae'n cael ei gadarnhau, sut mae'n dod i rym, a sut i'w ddiwygio.