Dechreuodd y cwymp ar 24 Hydref (Dydd Iau Du) a pharhaodd nes 29 Hydref (Dydd Mawrth Du).
Achosion
Ymchwydd y Cyfranddaliadau
Yn ystod yr ychwydd economaidd, wrth i elw cwmnïau'r Unol Daleithiau gynyddu, gwelwyd prynu cyfranddaliadau fel ffordd di-risg o wneud arian, sef hapfasnachu. Cyn bo hir, roedd gan yr holl wlad obsesiwn gyda'r farchnad stoc, a dechreuodd banciau dderbyn cyfranddaliadau fel gwariant am fenthyciadau. Wrth i fuddsoddwyr golli hyder a gwerthu'u cyfranddaliadau, effeithiodd hyn ar economi'r Unol Daleithiau i gyd.
Gorgynhyrchu
Roedd polisïau'r llywodraeth Weriniaethol o hybu diwydiant yr Unol Daleithiau, trwy ddefnyddio polisi laissez-faire a chwtogi ar gynnyrch tramor, yn un o brif achosion ychwydd yr 1920au, ond arweiniodd hyn at orgynhyrchu a llai o alw am gynnyrch. Wrth i elw cwmnïau gwympo a swm y stoc heb ei werthu gynyddu, rhuthrodd pobl i werthu eu cyfranddaliadau.