Addasiad ar fflasg gyfoes ar gyfer yfed diod boeth (fel rheol) gyda chaead sy'n datod ac sy'n caniatáu i rywun yfed drwy hollt yw cwpan clud (cwpan cap, cwpan cadw neu cwpan ailddefnydd).[1] Mae'r cwpan yn hwyluso cludo'r ddiod wrth ei chadw'n gynnes ac yn glud.
Gwahaniaeth gyda fflasgiau
Yn wahanol i'r fflasg draddodiadol nid yw'r cwpan o reidrwydd yn cynnwys technoleg gwactod ('vacuum') ynddi ond yn hytrach yn aml o blastig gwydn, trwchus er mwyn cadw gwres yr hylif. Nodwedd arall wahanol i'r fflasg yw bod y cwpan clud wedi ei ddylunio yn benodol i'w ddefnyddio ar gyfer yfed coffi ac yn aml o faint i ffitio cyfarpar peiriant espresso gan gynnwys marciau mesuriadau tu fewn ar gyfer gwahanol fathau o coffi'n seiliedig ar goffi espresso.[2] Gan nad yw'r cwpan yn defnyddio technoleg gwactod traddodiadol, mae modd hefyd iddynt blygu a ceir cwpanau clud sy'n gallu amrywio mewn maint fel consertina.[3] Gellir hefyd rhoi'r cwpanau mewn popty microdon er mwyn twymo'r cynnwys. Yn wahanol hefyd i'r fflasg draddodiadol, yfir yn syth o'r cynhwysyn ac ni cheir cwpan atodedig i arllwys y ddiod iddo.
Disgrifiad
Pwrpas y cwpan clud yw cludo ac yn benodol yfed diod boeth neu oer, yn ddidrafferth ac yn saff wrth gerdded. Daw ei phoblogrwydd yn sgil yr arfer o yfed diod i'w chymryd allan o gaffi neu fwyty. Fel rheol, caiff ei ddefnyddio ar gyfer diodydd poeth, yn enwedig mathau o goffi megis Cappuccino.
Cynhyrchir y cwpan clud o wahanol ddefnydd gan gynnwys plastig trwchus, serameg, gwaddol bambŵ o broses creu chop-sticks a lloriau, dur gwrthstaen, plisgyn ffa coffi,[4] er mwyn cadw gwres y paned yn gyson am gyn hired â phosib. Mae'r caead yn gallu datod (fel rheol drwy system sgriw elfennol). Ceir yna hollt yn y caead, sydd fel rheol â chaead bach arall ar ei gyfer, er mwyn yfed oddi ohono.
Cynhyrchir cwpanau clud gan amryw o gwmnïau gan gynnwys KeepCup o Awstralia. Sefydlwyd y cwmni yn 2007 gan Abigail Forsyth a'i brawd, Jamie Forsyth, wedi iddynt ddechrau pryderu am y nifer o gwpanau untro oedd yn cael eu defnyddio a'u gwastraffu yn eu cadwyn o gaffis, Bluebag, yn ninas Melbourne.[5] O 2019 ymlaen, mae KeepCup yn amcangyfrif bod ei ddefnyddwyr wedi dargyfeirio biliynau o gwpanau untro na ellir eu hailgylchu o safleoedd tirlenwi.[6] Mae'n bosib y gall y gair keep cup ddod yn enw generig ar y gwrthrych yn yr un modd ag y mae hoover ar gyfer Sugnwr llwch bellach.
Pryder Amgylcheddol
Cefndir
Daw'r twf mewn gwerthiant cwpanau clud yn sgil pryder am y nifer aruthrol o gwpanau untro caiff eu gwaredu bob blwyddyn. Yn y DU gwaredir 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro gan greu 30,000 tunnell o wastraff yn flynyddol.[4]
Mesur effeithiau amgylcheddol
Mae angen defnyddio cwpan ailddefnydd nifer fawr o weithiau cyn cael llai o effaith ar yr amgylchedd - gan ddibynnu ar ba fath o effaith amgylcheddol sydd dan sylw, a pha deunyddiau a defnyddir i greu'r cwpan ailddefnydd, mae'n rhaid defnyddio cwpan rhwng 20 a 1000 o weithiau er mwyn iddo fod yn well na chwpan untro.[7][8] Mae'n debyg fod aros mewn caffi i yfed coffi mewn cwpan seramig draddodiadol yn well i'r amgylchedd na phrynu coffi i fynd, waeth bynnag pa fath o gwpan a ddefnyddir. Mae effaith amgylcheddol hir-dymor defnyddio cwpanau megis y KeepCup yn dibynnu ar sut rydych chi'n eu golchi.[7][8]
Cwpan Clud Cymraeg
Cynhyrchir cwpan clud Gymreig gan gwmni Castell Howell gyda dywediadau cyfarch yn y Gymraeg ("bore da", "syt [sic.] mae", "shwmae") a hefyd nodweddiadol Saesneg Cymru ("hello butt", "olright mush") ar y cwpan sy'n dal 500ml o hylif. Hyd yma (2021) dyma'r unig gwpan clud gyda brandio Cymreig, er, yn debyg i'r llu o fygiau sydd gyda brandio Cymraeg gellid dychmygu y bydd y farchnad am gwpanau clud Cymraeg yn tyfu ac yn rhan arall bychan wrth normaleiddio'r iaith Gymraeg.
Cyfeiriadau
↑Sion Jobbins. "Twitter". Cyrchwyd 18 Tachwedd 2021.