Culfor yn Tierra del Fuego, yn ne eithaf De America, yw Culfor Magellan. Yn fwy manwl gywir, mae'n gwahanu tir mawr De America a Tierra del Fuego ei hun. Ei hyd yw 600 km (370 milltir) a'i led yn 32 km (20 milltir) ar ei letaf.
Cafodd ei ddarganfod gan Orllewinwr am y tro cyntaf gan y fforwr Portiwgalaidd Ferdinand Magellan yn y flwyddyn 1520 ar fordaith i'r Y Philipinau.
Mae'n llwybr forol pwysig rhwng de'r Cefnfor Iwerydd a de'r Cefnfor Tawel. I'r dwyrain gorwedd Ynysoedd Falkland (Malvinas). Mae'r rhan fwyaf o'r culfor yn rhan o diriogaeth Tsile ac eithrio rimyn o dir yn y dwyrain sy'n perthyn i'r Ariannin ac yn rhan o Batagonia.
Yr unig dref o bwys ar ei lannau yw Punta Arenas yn Tsile. Mae'r tywydd yn gallu bod yn eithafol iawn, yn arbennig yn y gaeaf.