Planhigyn blodeuoldyfrol yw Cribau San Ffraid sy'n enw lluosog. Mae'n perthyn i'r teulu Lamiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Stachys officinalis a'r enw Saesneg yw Betony.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Cribau San Ffraid Cribau Shôn Ffred, Danhogen, Dannogen y Coed, Dwyfog, Llys Dwyfog, Meddyges Lwyd.
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn tyfu mewn cynefinoedd oer a thymherus (neu gynnes) yn hemisffer y Gogledd a'r De fel y'i gilydd.
Mae'r mapiau degwm dyddiedig tua 1840 yn croniclo hen enwau caeau. Roedd enw'r cae sydd union gyferbyn â chymer Afonydd Dwyfor a Dwyfach yn tystio i bresenoldeb, ryw oes cyn hynny, flodyn a elwir heddiw yn Gribau San Ffraid. Mae'r enw yn arwydd o ddwyfoldeb y planhigyn hwn yn y gorffennol. Union enw'r cae yw "Cae Bryn Dwyfog" a dwyfog oedd hen enw ar y planhigyn hwn