Mae "Cosofo yw Serbia" (Serbeg: Косово је србија; Kosovo je Srbija) yn slogan sydd wedi cael ei ddefnyddio yn Serbia ers o leiaf 2004,[1][2] boblogeiddiwydy slogan fel ymateb i ddatganiad annibyniaeth Cosofo o Serbia ar 17 Chwefror 2008.[3] Mae’r slogan wedi cael ei ddefnyddio gan gyfres o brotestiadau, a gan Lywodraeth Serbia. [4] Mae'r slogan wedi ymddangos ar grysau-T ac mewn graffiti ac fe'i gosodwyd ar wefannau sefydliadau Cosofeg gan hacwyr yn 2009. Defnyddir y slogan gan Serbiaid ledled y byd.[5] Ymgyrchodd y slogan yn swyddogol gyntaf gan lywodraeth Serbia yn protestio pwerau'r Gorllewin.[6]
Digwyddiadau
Cynhaliwyd rali "Kosovo je Srbija" drefnwyd gan lywodraeth Serbia ar 21 Chwefror 2008 yn Belgrade o flaen y Senedd, gyda thua 200,000[7][8]–500,000[9] bresennol. Cafodd Llysgenhadaeth yr UDA ei rhoi ar dân gan grŵp bach o wrthdystwyr.[10] Cafwyd protest fach hefyd ei gynnal yn Llundain [11]a bu 5,000 o wrthdystwyr yn arddangos yn Mitrovica y diwrnod canlynol. Cafodd heddlu Cosofo eu hanafu yn ystod protest gan 150 o gyn-filwyr rhyfel ar groesfan ar y ffin ar 25 Chwefror.[12]
Digwyddodd protestiadau treisgar gan ddefnyddio’r slogan ym Montenegro ar ôl i’r llywodraeth gydnabod annibyniaeth Cosofo ym mis Hydref 2008.[13]
Pan gytunodd Serbia i drefniant ffiniau integredig, protestiodd grwpiau tu allan i Belgrade gan weiddi "Kosovo je Srbija".[14]
↑Helsinki Committee for Human Rights in Serbia(PDF) (arg. 671 Politika, April 12, 2013.). serbia 2012 : SERBIA AND THE WORLD. Populism: Entropy of democracy. t. 35. Cyrchwyd 1 January 2020.