Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Enghraifft o:swydd Edit this on Wikidata
Mathpolice commissioner, swydd Edit this on Wikidata
Rhagflaenyddpolice authority Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Crëwyd swyddi Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, gydag etholiadau yn cael eu cynnal am y tro cyntaf ar 15 Tachwedd 2012. Cynrychiolydd wedi ei ethol yw'r comisiynydd, sydd â chyfrifoldeb dros gadarnhau bod yr heddlu yn gweithredu yn effeithlon ac effeithiol mewn ardal blismona; maent yn disodli'r awdurdodau heddlu. Nid yw hyn yn effeithio ar Lundain sydd â threfniadau ar wahân, na'r Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r plismona wedi cael ei ddatganoli, a'r cyfrifoldeb gyda Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon mewn swydd debyg.

Ni ddylid cymysgu swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gyda'r rheng heddwas "Comisiynydd", a ddelir gan y prif swyddog heddlu yn yr Heddlu Metropolitan a Heddlu Dinas Llundain (sy'n gwasanaethu'r ddwy ardal blismona yn Llundain).

Cefndir

Yn ymgyrch etholiad cyffredinol 2010, roedd y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnwys cynlluniau yn eu maniffesto, er mwyn disodli ac aildrefnu'r awdurdodau heddlu, gyda'r ddwy blaid yn codi eu pryderon ynglŷn â'r diffyg atebolrwydd a oedd i'w weld gyda'r awdurdodau i'r cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu. Yn dilyn yr etholiad, yn ôl Cytundeb clymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol:

We will introduce measures to make the police more accountable through oversight by a directly elected individual, who will be subject to strict checks and balances by locally elected representatives.[1]

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cymru

Cymru
Ardal Plaid Comisiynydd 5 Mai 2016
Heddlu Dyfed-Powys   Plaid Cymru Dafydd Llywelyn 5 May 2016
Heddlu Gwent   Y Blaid Lafur Jeffrey Cuthbert 5 Mai 2016
Heddlu Gogledd Cymru   Plaid Cymru Arfon Jones 5 Mai 2016
Heddlu De Cymru   Y Blaid Lafur Alun Michael 5 Mai 2016
Cymru
Ardal Plaid Comisiynydd Etholwyd
Heddlu De Cymru   Llafur Alun Michael 15 Tachwedd 2012
Heddlu Dyfed-Powys   Ceidwadwyr Christopher Salmon 15 Tachwedd 2012
Heddlu Gogledd Cymru   Annibynnol Winston Roddick 15 Tachwedd 2012
Heddlu Gwent   Annibynnol Ian Johnson 15 Tachwedd 2012

Lloegr

Lloegr
Ardal Plaid Comisiynydd Etholwyd
Heddlu Avon a Gwlad yr Haf     Sue Mountstevens 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Bedford     Olly Martins 15 Tachwedd 2012
Heddlu Caint   Annibynnol Ann Barnes 15 Tachwedd 2012
Heddlu Cleveland     Barry Coppinger 15 Tachwedd 2012
Heddlu Cumbria     Richard Rhodes 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Derby     Alan Charles 15 Tachwedd 2012
Heddlu De Swydd Efrog     Alan Billings 30 Hydref 2014
Heddlu Dinas Llundain Nid oes Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn hytrach mae Corfforaeth Dinas Llundain yn gweithredu fel y corff plismona.
Heddlu Dorset     Martin Underhill 15 Tachwedd 2012
Heddlu Dyffryn Tafwys     Anthony Stansfield 15 Tachwedd 2012
Heddlu Dyfnaint a Chernyw     Tony Hogg 15 Tachwedd 2012
Heddlu Durham     Ron Hogg 15 Tachwedd 2012
Heddlu Essex     Nicholas Alston 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Gaer     John Dwyer 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Gaergrawnt     Graham Bright 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Gaerhirfryn     Clive Grunshaw 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Gaerloyw     Martin Surl 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Gaerlŷr     Clive Loader 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Hertford     David Lloyd 15 Tachwedd 2012
Heddlu Gogledd Swydd Efrog     Julia Mulligan 15 Tachwedd 2012
Heddlu Gorllewin Mercia     Bill Longmore 15 Tachwedd 2012
Heddlu Gorllewin y Canolbarth     David Jamieson 21 Awst 2014[2]
Heddlu Gorllewin Swydd Efrog     Mark Burns-Williamson 15 Tachwedd 2012
Heddlu Hampshire     Simon Hayes 15 Tachwedd 2012
Heddlu Humberside     Mathew Grove 15 Tachwedd 2012
Heddlu Manceinion Fwyaf     Tony Lloyd 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Lincoln     Alan Hardwick 15 Tachwedd 2012
Heddlu Merswy   Llafur Jane Kennedy 15 Tachwedd 2012
Heddlu Metropolitan Nid oes Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn hytrach mae Maer Llundain yn gweithredu'r swyddogaeth mewn effaith.[3]
Heddlu Norfolk     Stephen Bett 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Northampton     Adam Simmonds 15 Tachwedd 2012
Heddlu Northumbria   Llafur Vera Baird 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Nottingham     Paddy Tipping 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Stafford     Matthew Ellis 15 Tachwedd 2012
Heddlu Suffolk     Tim Passmore 15 Tachwedd 2012
Heddlu Surrey     Kevin Hurley 15 Tachwedd 2012
Heddlu Sussex     Katy Bourne 15 Tachwedd 2012
Heddlu Swydd Warwick     Ron Ball 15 Tachwedd 2012
Heddlu Wiltshire   Ceidwadwyr Angus Macpherson 15 Tachwedd 2012

Cyfeiriadau

  1. "The Coalition: our programme for government" (PDF). UK Cabinet Office Website. Cyrchwyd 28 September 2011. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-22. Cyrchwyd 2015-11-03.
  3.  Police Reform and Social Responsibility Act 2011 (Section 3). UK Legislation. Adalwyd ar 28 Medi 2011.

Gweler hefyd

Dolenni allanol