Colette Hughes

Ymgyrchydd elusennol yw Colette Hughes sydd wedi'i chydnabod am ei chyfraniad i'r gwaith adfer yn Rwanda yn dilyn yr hil-laddiad yno yn 1994. Magwyd hi mewn gwersyll i ffoaduriaid yn ne Uganda wedi i'w theulu orfod ffoi o Rwanda pan oedd yn 8 oed. Fe wnaeth Mike, ei gŵr, a hithau gyfarfod yn Abertawe tra oedd yn astudio yno ar ddiwedd y 1970au. Mae'r ddau wedi treulio blynyddoedd yn cynorthwyo gydag adferiad Rwanda yn dilyn yr hil-laddiad yno, gan sefydlu'r Rwanda/UK Goodwill Organisation (RUGO) yn 2002. Buont yn cynllunio prosiectau ailadeiladu ar gyfer Rwanda tra oedd y ddau ohonynt yn gweithio yn llawn amser a chynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf RUGO ar eu haelwyd.[1][2] Bu'r ddau yn byw yn Rwanda am gyfnod ar ôl 2002, lle bu Mike (peiriannydd siartredig o ran ei alwedigaeth) yn gynghorydd i'r Llywodraeth yno.

Cafodd Colette a Mike Hughes eu henwebu am Wobr Dewi Sant yn y Dosbarth Rhyngwladol yn 2018. Yn 2019, i nodi 25 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Rwanda, rhoddodd Colette a Mike araith gyweirnod o dan y pennawd 'Remembering Rwanda' mewn digwyddiad i nodi Dydd Coffa yr Holocost yn Neuadd Dinas Caerdydd, a chyflwynwyd gwobr Points of Light iddynt yr un flwyddyn.[3] Cafodd Colette hefyd ei henwi ar restr 'Brilliant, Black and Welsh: A celebration of 100 African Caribbean and African Welsh People' a gyhoeddwyd gan Wales Online yn 2018.[4]

Cyfeiriadau