System sydd i'w gael maen sawl awdurdod yw cofrestru troseddwyr rhyw. Mae wedi ei gynllunio i alluogi awdurdodau'r llywodraeth i allu dilyn symudiadau cartref a gweithgareddau troseddwyr rhyw, gan gynnwys y rhai sydd wedi cwblhau dedfryd eu trosedd. Mewn rhai awdurdodau, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau, mae'r wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd trwy wefan, neu ddull arall. Caiff cyfyngiadau ychwanegol eu gosod ar dorseddwyr rhyw mewn rhai awdurdodau, gan gynnwys cyfyngiadau ynglŷn â'u cartrefi. Gall gyfyngiadau gael eu gosod ar droseddwyr rhyw ar parôl neu brofiannaeth sydd ddim yn cael eu gosod ar droseddwyr eraill ar parôl neu brofiannaeth. Mae'r cyfyngiadau'n aml yn cynnwys cael eu atal rhag bod yng ngwmni plant, byw o fewn cyrraedd ysgol neu ganolfan gofal, neu bod yn berchen ar degannau neu eitemau eraill a fuasai o ddiddordeb i blant.