Mae Clwb Rygbi Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth RFC) yn dîm rygbi'r undeb o dref Aberystwyth. Mae'r clwb yn aelod o Undeb Rygbi Cymru ac yn glwb bwydo ar gyfer ochr ranbarthol y Scarlets.[2]
Hanes
Bu chware rygbi yn Aberystwyth ers diwedd y 19g [3] pan sefydlodd y Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth dîm rygbi.
Sefydlwyd Clwb Rygbi Aberystwyth ym 1947 [3] ac roedd y gêm gyntaf yn erbyn ail dîm Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle collodd y tîm newydd o'r dre 24-3.[4] Enillodd y clwb aelodaeth o Undeb Rygbi Cymru ym mis Mai 1954 a oedd yn caniatáu iddi gynnal gemau cystadleuol yn y dyfodol. Sefydlwyd clwb y tîm gyda chymorth benthyciad di-log deng mlynedd gan yr WRU ym 1960.
Mae arwyddlun y clwb yn darlunio fersiwn lliw glas o'r lle sydd ar faner Ceredigion gan nodi hanes a chysylltiad y clwb gyda'r dref a'r teulu Pryse, perchnogion stâd Gogerddan oedd perchen llawer o dir yng ngogledd Ceredigion a'r rheswm bod cymaint o dai tafarndai yng ngogledd y sir yn arddel yr enw Llew Du.
Timau
Mae gan y Clwb 500 o aelodau sy'n cynnwys oedolion a phlant. Mae ganddynt 2 tim i oedolion, 1 tim iau a 10 tim i blant lan at 16 mlwydd oed.[5]
Mae'r tîm cyntaf yn chwarae yn Adran 1 Gorllewin ("Division 1 West"), URC.[6]
Adeilad
Mae'r clwb wedi ei lleoli yn ardal Plas-crug o'r dref, rhwng Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Adeiladwyd y Clwbfa gyntaf fel adeilad prefab yn 1960 on llosgodd yr adeilad hwnnw i'r llawr ac fe’i hailadeiladwyd yn y 1970au. Ers hynny, bu sawl helaethiad i'r adeilad gan gynnwys cyfleusterau newid newydd a lolfa.[4]
Oriel
Lleolir maes chwarae C.R. Aberystwyth ar dir Plascrug rhyw un cilomedr o ganol tref Aberystwyth.
-
Clwbfa C.R. Aberystwyth o'r ochr
-
Bwrdd noddwyr pêl
-
Eisteddle C.R. Aberystwyth
-
C.R. Aberystwyth - clwbfa a'r pyst
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Dolenni allanol