Clwb Pêl-droed Amed

Clwb chwaraeon yw Amed SK,[1] (hen enw Diyarbakır BüyükÅŸehir Belediyespor) yn Diyarbakır, dinas Gyrdaidd yn Nhwrci. Yn 2015/16 roedd y clwb pêl-droed yn chwarae yn ail adran Twrci a dyma yw clwb pêl-droed Cyngor Metrolopolitan Diyarbakir.

Ym mis Hydref 2014, newidiwyd enw'r clwb i Amedspor (Amed yw enw Cyrdaidd y ddinas). Roedd Ffederasiwn Twrci yn chwyrn yn erbyn y newid enw, a chafodd y clwb ddirwy.[2]

Yn mis Chwefror 2016 cafodd eu chwaraewr Deniz Naki ei atal rhag chwarae am 12 gêm a dirwy fawr am ysgrifennu cofnod Facebook yn talu teyrnged i'r rhai a fu farw ac a anfwyd wrth amddiffyn ardaloedd Cyrdaidd rhag y Wladwriaeth Islamaidd.[3].

Yn ystod gêm gwpan yn erbyn Basaksehir yn nhymor 2015/16, bu grŵp cefnogwyr Bariket yn lleisio ey cefnogaeth ei ddinasoedd Sur a Cizure, a oedd fel eu dinas hwythau yn destun cyrffyw hirhoedlog gan fyddin Twrci, ac o ganlyniad cyhuddwyddwyd y clwb o "bropoganda eidiolegol", cawsant ddirwy a gwaharddwyd cefnogwyr o'u gêm nesaf. Yn yr un gêm roedd chwaraewr Basaksehir wedi gwneud saliwt milwr er teyrnged i filwyr Twrci a oedd wedi marw yn y gwrthdaro rhwng y Cyrdiaid a Thwrci.[4]

Ar ddechrau eu gêm gwpan yn erbyn Fenerbahçe, safodd chwaraewyr y ddau dîm yn llonydd am hanner mynd ar ôl y chwiban gyntaf mewn protest yn erbyn gwaharddiad Deniz Naki.[4]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol