Cyn-chwaraewr a hyfforddwr rygbi’r undeb o Gymro oedd Daniel Clive Thomas Rowlands (14 Mai 1938 – 29 Gorffennaf 2023)[1]. Enillodd 14 cap dros Gymru, ac yn ddiweddarach bu'n hyfforddwr Cymru. Ef oedd yr unig ddyn i fod yn gapten, yn hyfforddwr ac yn rheolwr ar dîm Cymru. [2]
Ganwyd ef yng Nghwmtwrch Uchaf, a bu'n byw yno drwy ei oes. Roedd yn athro wrth ei alwedigaeth.
Gyrfa
Chwaraeodd i glybiau rygbi Pontypwl, Llanelli ac Abertawe. Bu’n gapten Pontypwl yn ystod tymor 1962 – 63 ac Abertawe yn nhymor 1967 – 1968. Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Lloegr yn 1963. Ef oedd y capten, ac mae ganddo’r record anghyffredin o fod wedi chwarae pob un o’i 14 gêm dros Gymru rhwng 1963 a 1965 fel capten. Arweiniodd Gymru i’r Goron Driphlyg am y tro cyntaf ers 1952.
Yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1963, roedd y tywydd yn wlyb a chymaint o fwd ar y cae nes i Rowlands a David Watkins benderfynu cicio’r bel dros yr ystlys bob cyfle a gaent. O ganlyniad bu 111 o linellau yn ystod y gem yma. Enillodd Cymru’r gêm 6-0, ond o ganlyniad i’r gem yma, newidiodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol y rheolau, fel mai dim ond o’r tu mewn i’w linell 22 ei hun y cai chwaraewr gicio’r bêl yn uniongyrchol dros yr ystlys.
Wedi ymddeol fel chwaraewr, bu’n hyfforddwr Cymru am 29 gêm, rhwng 1968 a 1974, y person ieuengaf i fod yn y swydd. Bu’n gyfnod llwyddiannus iawn i’r tîm cenedlaethol, yn cynnwys y Gamp Lawn yn 1971. Bu’n rheolwr tim y Llewod ar eu taith i Awstralia yn 1989.
Cyfeiriadau