Cododd y Rhufeiniaid ddinas ar safle Cirencester, gyda'r enw "Corinium Dobunnorum". Mae'r amffitheatr yn dal i sefyll, yn ardal Querns. Ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain ar ddechrau'r 5g, parhaodd Cirencester yn ganolfan i'r Brythoniaid. Syrthiodd i'r Eingl-Sacsoniaid yn fuan ar ôl iddynt ennill Brwydr Dyrham yn 577.