Mae Cincinnati yn ddinas yn nhalaith Ohio yn yr Unol Daleithiau (UDA). Fe'i lleolir yn ne-orllewin Ohio ar lannau'r Afon Ohio ac ar ffiniau taleithiau Ohio a Kentucky. Mae gan y ddinas boblogaeth o 332,252 yn 2006, tra bod gan Cincinnati Fwyaf boblogaeth o dros 2.1 miliwn. Gelwir y trigolion yn Cincinnatwyr.
Cysylltiadau Cymreig
Daeth Michael D. Jones yma yn weinidog yn 1849. Cychwynnwyd y cylchgrawn The Cambrian gan y Parch. D. J. Jones yn Cincinnati yn y flwyddyn 1880.