Cian Ciarán

Cian Ciarán
Cian Ciarán yn perfformio gyda Super Furry Animals yn y Summer Sonic Festival, Tokyo, Japan ar 10 Awst 2008.
Y Cefndir
Ganwyd (1976-06-16) 16 Mehefin 1976 (48 oed)
Bangor
GwaithCerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd
Offeryn/nauAllweddellau
gitâr
llais cefndir
drymiau
Perff'au eraillSuper Furry Animals
Acid Casuals
Wwzz
Aros Mae
Paps
Kirkland
Wilding
Zefur Wolves

Cerddor Cymreig ydy Cian Ciarán (ganed 16 Mehefin 1976). Mae'n aelod o'r band Super Furry Animals (ynghyd a'i frawd Dafydd Ieuan) a Acid Casuals. Cyn hynny roedd yn aelod o'r grwpiau electronig Wwzz a Aros Mae. Cian sy'n gyfrifol am chwarae'r allweddellau a rhaglennu seiniau arbennig ar y samplyr. Mae hefyd yn canu a chanodd yng nghytgan Motherfokker, wrth gydweithio gyda Goldie Lookin' Chain.

Mae e wedi rhyddhau dau albwm fel artist solo ac un fel aelod o'r band Zefur Wolves. Yn ogystal â'r albymau hyn mae e'n rhyddhau cerddoriaeth gan amrywiaeth o artistiaid ar ei label recordiau Strangetown Records.[1][2]

Ei dad yw'r meddyg Carl Iwan Clowes.

Yn 2018 etholwyd ef yn Is-gadeirydd mudiad dros annibyniaeth, Yes Cymru.

Cyfeiriadau

Dolenni Allanol


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.