Ci arffed bach sy'n tarddu o Falta yn ôl traddodiad yw Ci Malta, Ci Melita neu Ddaeargi Melita.[1] Ci hynafol ydyw a sonir amdano mewn ffynonellau o ardal y Môr Canoldir sydd yn dyddio'n ôl i 300 CC.[2]
Mae ganddo gôt hir o flew sidanaidd, o liw gwyn., ac mae'n rhaid ei ysgrafellu yn feunyddiol i atal clymu.
Mae'n tyfu i 25 cm ac yn pwyso rhyw 2 i 3 kg. Mae'n byw am fwy na 12 mlynedd.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur yr Academi, terrier1 > Maltese terrier.
- ↑ 2.0 2.1 Kathryn Hennessy et al., The Dog Encyclopedia (Llundain: Dorling Kindersley, 2013), t. 274.