Mae'n gi tenau gyda blew byr o liw gwyn gyda smotiau duon. Genir y cenawon yn wyn a datblyga'r smotiau ychydig o wythnosau'n hwyrach. Mae ganddo daldra o 48 i 58 cm (19 i 23 modfedd) ac yn pwyso 23 i 25 kg (50 i 55 o bwysau). Yn gyffredinol, ci addfwyn a chyfeillgar yw'r Dalmatiad.[2]