Mae Charlie Wilson's War (2007) yn ffilm
fywgraffiadol yn seileidig ar fywyd y Democrat o Texas, Charlie Wilson. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Mike Nichols, ysgrifennwyd gan Aaron Sorkin, ac mae'n serennu Tom Hanks, Julia Roberts, Philip Seymour Hoffman, Amy Adams, a Ned Beatty. Enwebwyd y ffilm am bump Gwobr Golden Globes gan gynnwys "Y Ffilm Orau" ond ni enillodd mewn unrhyw gategori. Enwebwyd Philip Seymour Hoffman hefyd am Wobr yr Academi fel yr Actor Cefnogol Gorau.