Arglwydd Lywydd y Cyngor, Arglwydd Raglaw yr Iwerddon, Lord Lieutenant of Norfolk, Lord Lieutenant of Norfolk, Ysgrifennydd Gwladol Adran y Gogledd, Ysgrifennydd Gwladol Adran y Gogledd, llysgennad, Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi
Plaid Wleidyddol
Chwigiaid
Tad
Horatio Townshend
Mam
Mary Ashe
Priod
Dorothy Townshend, Elizabeth Pelham
Plant
George Townshend, Charles Townshend, Thomas Townshend, William Townshend, Roger Townshend, Elizabeth Townshend, Dorothy Townshend, Mary Townshend, Edward Townshend
Roedd yn fab hynaf i Syr Horatio Townshend, 3ydd Barwnig, a gafodd ei greu'n Farwn Townshend yn 1661 ac yn Is-iarll Townshend yn 1682. Roedd yn perthyn i hen deulu Townshend Norfolk, yn ddisgynnydd o Syr Roger Townshend (bu farw 1493) o Raynham, a oedd yn ymgynghorydd cyfreithiol i'r teulu Paston, a wnaeth pleidion ynad y cyffredin yn 1484. Cafodd ei fab ef, Syr Roger Townshend (tua 1543-1590) fab, Syr John Townshend (1564-1603), a oedd yn filwr, crewyd ei fab ef, Roger Townshend, yn farwnig yn 1617. Ef oedd tad Syr Horatio Townshend.
Ganwyd yn Raynham Hall, Norfolk, golynodd Townshend i'r bendefigaeth ynDecember 1687, addysgwyd yng Ngholeg Eton a Coleg y Brenin, Caergrawnt. Roedd yn cydymdeimlo gyda'r Ceidwadwyr pan gymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond fe newidiodd ei farn, gan ddechrau cymryd rhan gweithredol yng ngwleidyddiaeth y Chwhig. Roedd heb swyddfa am ychydig o flynyddoedd wedi esgyniad Brenhines Anne, ond apwyntwyd ef yn Gapten Iwmyn y Gard ymmis Tachwedd 1708, wedi iddo gael ei alw i'r Cyfrin Gyngor. Roedd yn hynod llysgennad a plenipotensiwr i'r Gwladwriaeth-Cyffredin rhwng 1709 ac 1711, gan gymryd rhan yn y trafodaethau a rhagflaenodd diwedd Cytundeb Utrecht.
Wedi iddo gael ei alw'n ôl i Loegr, cadwyd ef yn brysur, yn ymosod ar weithgareddau'r weinyddiaeth Geidwadol. Fe enillodd Townshend gymwynas George I, ac ym mis Medi 1714, dewisodd y brenin ef i fod yn Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gogleddol. Roedd gan Townshend a'i gydweithwyr, ar ôl iddynt wasgu gwrthryfel y Jacobiad yn 1715, bolisi heddychlon adref a thramor. Nid oedd yn hoff o ymyrraeth Lloegr rhwng Sweden a Denmarc, a hybodd ddiweddiad i'r gyngrhair amddiffynnol rhwng Lloegr a'r ymerawdwr, a rhwng Lloegr a Ffrainc.
Tanseilwyd dylanwad y Chwigiaid er y llwyddiannau, gan gynllwynion Charles Spencer, 3ydd Iarll Sunderland, a gan anfodlonrwydd y ffefrynnau Hanoferaidd. Ym mis Hydref 1716, fe gyd deithiodd cydweithiwr Townshend, James Stanhope, y brenin ar ei ymweliad i Hanofer, a tra yno denwyd ef o'i deyrngarwch i'w gyd-weinidogion gan Sunderland. Cam-arweinwyd Siôr i gredu fod Townshend a'i frawd yng nghyfraith, Syr Robert Walpole, yn cyd-dwyllo gyda Tywysog Cymru, a'u bod yn bwriadu prince should iddo ddisodli ei dad o'r orsedd. Diswyddwyd Townshend ym mis Rhagfyr 1716, fel canlyniad ohyd, a crewyd ef yn Arglwydd Raglaw Iwerddon, swydd a ddeliodd hyd yr Ebrill canlynol yn unig.
Yn gynnar yn 1720 cafwyd cymod rhannol rhwng bleidiau Stanhope a Townshend, ac yn y mis Mehefin daeth Townshend yn Arglwydd Lywydd y Cyngor, swydd a ddeliodd hyd Chwefror 1721, pan, yn dilyn marwolaeth Stanhope ac ymddeoliad gorfodol Sunderland (canlyniad y South Sea Bubble), apwyntwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gogleddol unwaith eto, gyda Walpole as Arglwydd Cyntaf y Trysorlys a Canghellor y Trysorlys. Arhosodd y ddau y mhwêr drwy gweddill deyrnasiad Siôr I. Roedd y prif ddigwyddadau domestigar pryd yn cynnwys uchelgyhuddiad yr Esgob Atterbury, maddeuant ac adferiad rhannol Arglwydd Bolingbroke, a'r tafferthion yn Iwerddon a achoswyd gan y freinlen a adawodd i Wood fathu hanner-ceiniog.
Fe sicrhaodd Townshend diswyddiad ei gydymgeisydd, Arglwydd Carteret, nad fe gododd anghytuniad rhwng ef a Walpole, ac fe gafodd gyrn drafferth yn llywio trwy'r gwleidyddiaeth blinderus Ewropeaidd. Er nad oedd yn ei hoffi, fe gadwodd Siôr II ef yn ei swyddfa, ond fe basiwyd y brif weinyddiaeth yn araf ond yn sicr i Walpole. Nid oedd Townshend yn gallu goddef hyn. Roedd gwahaniaethau barn difrifol rhyngddynt dros y polisi a ddylid ei fabwysiadu tuag at Prwsia ac yng ngwleidyddiaeth dramor yn gyffredinol, gan arwain at rwyg terfynol yn 1730. Fe geisiodd gael cydweithiwr wedi ei ddiswyddo gan roi ffring agos yn ei le, ond fe fethodd yn bennaf oherwydd ymyrraeth Walpole. Ymddeolodd Townshend ar 15 Mai 1730. Fe wariodd weddill ei ddyddiau yn Raynham, be diddorodd ei hun gyda amaeth, roedd y gyfrifol am gyflwyno tyfu cnydau o maip ar raddfa eang i Loegr, ac am welliannau eraill o'r fath. Bu farw yn Raynham ar 21 Mehefin1738.
Cyflwynodd Townshend i Loegr, y cylchdro cnydau pedwar-cae a arloeswyd gan ffermwyr yn ardal Waasland yn gynnar yn yr 16g. Rhoddodd y system (o wenith, barlys, maip a meillion) gwnd porthiant a phori, gan alluogi bridio da byw drwy gydol y flwyddyn a cynyddu cynnyrch wrth osgoi gorfod gadael y tir yn wag pob trydydd blwyddyn. Cylchdro cnydau tair-mlynedd a ddefnyddwyd gan ffermwyr Ewrop gynt, gan gylchdroi rhyg neu wenith gaeaf, a dilyn gyda ceirch gwanwyn neu farlys, cyn adael i'r pridd orffwys, i fraenaru, yn ystod y trydydd cam. Maecylchdroi cnydau yn angenrheidiol er mwyn osgoi gadael i lefel blâu neu salwch gynyddu yn y pridd, a chan fod gan gwahanol deuluodd o blanhigion anghenion maeth gwahanol. Roedd y cylchdro cnydau pedwar-cae yn allweddol i ddyfodiad y Chwyldro Amaethyddol Prydeinig.
Fel canlyniad o hyn, ac arbrofion eraill amaethyddol yn Raynham, daeth i'w adnabod fel Turnip Townshend. Er y gwnaethwyd cryn hwyl ar ei ben, roedd ei ddigwydiadau amaethyddol yn arbennig o bwysig. Ond, disgrifir ef gan Alexander Pope yn Imitations of Horace, Epistle II, fel dyan a oedd yn aflonyddu â maip, ac fod "y math o welliannau amaethyddol sy'n codi o faip" yn hoff bwnc sgwrs Townshend.