Charles Evans |
---|
Ganwyd | 19 Hydref 1918 Lerpwl |
---|
Bu farw | 5 Rhagfyr 1995 |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | fforiwr, llawfeddyg, dringwr mynyddoedd |
---|
Gwobr/au | Medal y Noddwr |
---|
Chwaraeon |
---|
Mynyddwr a llawfeddyg o Gymru oedd Syr Robert Charles Evans (19 Hydref 1918 – 5 Rhagfyr 1995).[1]
Ganwyd yn Nerwen, Sir Ddinbych. Mynychodd Ysgol Amwythig, ac astudiodd feddygaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen. Ymunodd â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ym 1943, a gwasanaethodd yn y Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei ryddhau o'r fyddin ym 1947, a daeth yn gofrestrydd llawfeddygol i Ysbytai Rhanbarthol Lerpwl.
Roedd yn is-arweinydd y cyrch ar Fynydd Everest ym 1953, a dyma oedd yr ymgais lwyddiannus gyntaf i ddringo copa uchaf y byd, gan Edmund Hillary a Tenzing Norgay. Bu Evans hefyd yn arweinydd y cyrch ar Kangchenjunga ym 1955. Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i fynydda wedi iddo gael diagnosis o sglerosis ymledol. Yn aml bu'n teithio i Ben-y-Gwryd ar droed yr Wyddfa i gwrdd ag aelodau eraill o gyrch 1953. Roedd yn llywydd ar yr Alpine Club o 1967 i 1970, a chafodd ei urddo'n farchog ym 1969.
Gwasanaethodd yn swydd Prifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, o 1958 i 1984, ac yn is-ganghellor Prifysgol Cymru o 1965 i 1967 ac o 1971 i 1973. Er yr oedd yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, bu gwrthdaro rhwng Evans a myfyrwyr Cymraeg oedd yn ymgyrchu dros yr iaith.
Priododd Nea Morin ym 1957, a chawsant dri mab. Bu farw yn Negannwy, yn 77 oed.
Llyfryddiaeth
- Eye on Everest (1955)
- On Climbing (1956)
- Kangchenjunga: The Untrodden Peak (1956)
Cyfeiriadau