Tîm pêl-droed proffesiynol wedi'i leoli yn Glasgow, Yr Alban yw The Celtic Football Club. Maen nhw'n chwarae yn Uwchgynghrair yr Alban, a'u stadiwm yw Parc Celtic. Ers eu sefydlu yn 1888, maent wedi cadw eu troed o fewn yr Uwchgynghrair. Ystyrir Rangers fel eu harchelyn, ac adnabyddir y ddau dîm fel the Old Firm.
Maent wedi bod yn bencampwyr ar Uwchgynghrair yr Alban ar 54 achlysur a Chwpan yr Alban 40 gwaith; ar ben hyn maent wedi curo Cwpan Cynghrair yr Alban (Scottish League Cup) 19 o weithiau.
Eu tymor gorau oedd 1966–67, pan ddaeth Celtic y tîm cyntaf o wledydd Prydain i guro Cwpan Ewrop, 1967; yr un flwyddyn cipiodd Celtic Gwpan Cynghrair yr Alban, Cwpan yr Alban a Phencampwriaeth Cynghrair yr Alban.[3][4].