Coeden fytholwyrdd yw'r gedrwydden (lluosog: cedrwydd) (Saesneg: Cedar) sy'n aelod o deulu'r Pinaceae ac yn perthyn yn agos iawn i'r pinwydd. Mynyddoedd Himalaia oedd eu tiriogaeth frodorol ac ardal y Môr Canoldir a gallant dyfu ar uchder o 1,500–3200 metr o lefel y môr. Tarddiad y gair yw'r Roeg: kedros.
Disgrifiad
Gall coed cedrwydd dyfu i uchder o 30–40 metr a cheir arogl sbeis ar y pren. Yn aml, mae'r canghennau'n llydan a'r rhisgl wedi cracio. Mae'r dail ar ffurf nodwyddau 6–60 mm o ran hyd. Mae eu hadau o fewn cônau sydd ('moch coed' fel y'u gelwir yng ngogledd Cymru), a rhwng 6–12 cm o ran hyd a 3–8 cm o led.