Merch hynaf Owain Glyn Dŵr a'i wraig Margaret Hanmer oedd Catrin ferch Owain Glyn Dŵr (bu farw c. 1413). Priododd Edmund Mortimer wedi iddo ef wneud cynghrair a'i thad, a chawsant nifer o blant.
Cymerwyd Catrin a dau o'i phlant yn garcharor i Dŵr Llundain, wedi i Gastell Harlech syrthio i'r Saeson yn 1409. Roedd ei gŵr wedi marw yn ystod y gwarchae ar y castell. Mae'n debyg iddi hi a'i merched farw mewn caethiwed ar y 1af o Ragfyr, 1413; claddwyd hwy ym mynwent Eglwys San Switan (Saesneg: St. Swithin's Church), Llundain.
Dymchwelwyd Eglwys Sant Switan gan fomiau'r Almaen yn yr Ail Ryfel Byd. Arferai sefyll ar ran ogleddol Cannon Street, rhwng Salters' Hall Court a St Swithin's Lane,[1] Cyn hynny, llosgwyd yr eglwys yn Nhân Mawr Llundain, a'i hail-adeiladu i gynllun gan Christopher Wren. Mae'r cofnod cyntaf sydd ar gael sy'n crybwyll yr eglwys yn ymwneud â Chatrin. Yn un o ddogfennau'r Trysorlys, 1413, nodir taliad "for expenses and other charges incurred for the burial of the wife of Edmund Mortimer and her daughters, buried within St Swithin's Church London ... £1".[2]
Dadorchuddiwyd cofeb iddi a gynlluniwyd gan Nic Stradlyn-John yno gan Siân Phillips yn 2001. Gwnaed y gofeb allan o o garreg las Gelligaer wedi'i gerfio gan Richard Renshaw o Gwmdu.