Geiriadur tairieithog, Llydaweg, Ffrangeg a Lladin yw'r Catholicon. Hwn yw'r geiriadur cynharaf yn yr iaith Lydaweg, y cyntaf yn yr iaith Ffrangeg, a'r geiriadur tairieithog cyntaf yn y byd.
Ysgrifennwyd y llyfr yn 1464 gan yr offeiriad Llydewig Jehan Lagadeuc o Plougonven. Fe'i cyhoeddwyd yn Landreger (Tréguier yn Ffrangeg) yn 1499 gan Jehan Calvez.
Llyfryddiaeth
- Le Catholicon, atgynhyrchiad o argraffiad Jehan Calvez (1499) gan Christian-J. Guyonvarc'h, Éditions Ogam, Roazhon (1975), argraffwyd gant Editions Armeline, Brest (2005).
- Le Catholicon armoricain Jean Feutren, 1977, Mayenne.
- Le vocabulaire breton du Catholicon) gan Gwennole Le Menn, Skol, 2001.
- Le Catholicon de Jehan Lagadeuc, Pierre Trepos, Emgleo Breiz, 1965.
Dolenni allanol