Castell yn ne-ddwyrain yr Eidal yw Castel del Monte ("Castell y Mynydd"), sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Saif ar fryn y tu allan i ddinas Andria yn rhanbarth Puglia.[1]
Fe'i hadeiladwyd yn ystod y 1240au gan Ffredrig II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Mae ei gynllun wythonglog yn anarferol iawn ac y mae haneswyr wedi dadlau ynghylch ei bwrpas. Nid oes ganddo ffos na phont godi ac roedd rhai yn ystyried na chafodd erioed ei fwriadu fel caer amddiffynnol; fodd bynnag, mae gwaith archeolegol wedi awgrymu ei fod wedi ei amgylchynu gan fur allanol yn wreiddiol. Yn y 18g ysbeiliwyd marblis mewnol y castell a'r dodrefn a oedd yn weddill.[2]
Mae delwedd y castell yn ymddangos ar y fersiwn Eidalaidd o'r darn arian 1 sent yr Ewro-floc.[3]
Oriel
-
Y castell o'r tu blaen
-
Y castell o'r awyr
-
Y cynllun wythonglog
-
Y muriau mewnol
Cyfeiriadau